Disgwylir i ColegauCymru ystyried ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Estyn a’i argymhellion ar bartneriaethau ôl-16 yng nghyfarfod nesaf Fforwm y Penaethiaid.
Mae'r adroddiad yn adolygu cynllunio strategol a gweithio mewn partneriaeth ar gyfer addysg pobl ifanc 16 i 19 oed mewn ysgolion chweched dosbarth a cholegau addysg bellach ac yn tynnu sylw at yr heriau a gofnodwyd eisoes ynghylch y berthynas ysgol a choleg.
Dywedodd Cadeirydd ColegauCymru Guy Lacey,
“Deallwyd ers tro bod gwahanol gyfundrefnau cynllunio, cyllido a goruchwylio ysgolion a cholegau yn aml yn rhwystro partneriaethau cynhyrchiol rhwng darparwyr. Mae hyn yn rhywbeth sy’n amlygu ei hun yn fwy wrth i ni ystyried effaith pandemig Covid19 ac yn rhywbeth y mae Fforwm y Penaethiaid yn awyddus i fynd i’r afael ag ef.”
Mae'r adroddiad hefyd yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu colegau ac ysgolion cyfrwng Cymraeg sy'n ceisio cydweithredu i helpu dysgwyr i ddilyn elfennau o gyrsiau galwedigaethol trwy gyfrwng Cymraeg.
Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,
“Ein blaenoriaeth o hyd yw sicrhau bod pob dysgwr ôl-16 yn cael y profiad gorau posibl, waeth beth yw'r rhaglen astudio y maen nhw'n dewis ei dilyn. Mae'n gynyddol bwysig bod dysgwyr sy'n siarad Cymraeg yn gallu dilyn cwrs astudio galwedigaethol trwy gyfrwng yr Iaith Gymraeg. Mae'n hanfodol bod dysgwyr ôl-16 yng Nghymru yn gallu cael cynnig cwricwlwm digon eang i'w galluogi i gyrraedd eu potensial llawn.”
Fodd bynnag, mae'r cyfathrebu rhwng awdurdodau lleol a'r mwyafrif o golegau'n parhau i fod yn gadarnhaol. Bydd hwn yn sylfaen cryf i adeiladu ohoni wrth i ni geisio gweithio gyda'r llywodraeth a chydweithwyr eraill i fynd i'r afael â'r materion a godwyd yn yr adroddiad.
Gwybodaeth Bellach
Ymateb Adroddiad Llywodraeth Cymru
Partneriaethau ôl-16: ymateb y llywodraeth
10 Chwefror 2021