Wrth inni agosáu at y dyddiad cyhoeddi ar gyfer canfyddiadau interim Adolygiad annibynnol o’r trefniadau ar gyfer dyfarnu graddau cyfres arholiadau haf 2020, a’r ystyriaethau ar gyfer 2021, mae ColegauCymru heddiw yn annog rhanddeiliaid i barhau i weithio gyda’i gilydd ac i gymryd yr amser i wrando ac ymateb i argymhellion y Panel yn eu cyfanrwydd.
Yn arwain yr Adolygiad yw Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru Louise Casella, sydd wedi ceisio barn ystod eang o randdeiliaid i sicrhau bod gwersi yn cael eu dysgu eleni.
Dywed y Gweinidog Addysg Kirsty Williams y bydd yn cyhoeddi penderfyniad ar arholiadau TGAU a Safon Uwch yr haf nesaf ar 10fed Tachwedd. Cyn y cyhoeddiad hwn, mae Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, Philip Blaker, eisoes wedi cadarnhau bod y rheoleiddiwr yn edrych ar "symud i ffwrdd o arholiadau ar amserlen" i gynnig "profiad perfformio".
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,
“Mae'n hanfodol bod y Gweinidog yn cael y budd o allu gwrando ac ymateb yn llawn i ganfyddiadau ac argymhellion Panel Adolygu Casella. Rhaid i'r Gweinidog allu gwneud penderfyniad gwybodus er budd dysgwyr yng Nghymru, yng nghyd-destun cymwysterau academaidd a galwedigaethol.”
Gan adlewyrchu ar yr angen i barhau i weithio gyda'n gilydd tuag at ddatrysiad, ychwanegodd Cadeirydd Grŵp Cwricwlwm ac Ansawdd ColegauCymru, Kay Martin,
“Mae'r sector addysg bellach yn annog y rheoleiddiwr Cymwysterau Cymru, y cyrff dyfarnu unigol yn ogystal ag ysgolion a cholegau i barhau i weithio gyda'i gilydd i ddod o hyd i ateb ymarferol i her arholiadau ac asesiadau. Gyda chymaint o aflonyddwch eisoes gan ddisgyblion a dysgwyr ac amseroedd ansicr yn dal i fodoli, mae'n hanfodol bod ffordd ymlaen yn cael ei nodi gan yr holl bartneriaid."
Waeth bynnag yr ateb a ddewisir, rhaid ei gyd-lunio er fudd y dysgwyr sydd wrth wraidd y broses benderfynu. Bydd y rhai sy'n cyflwyno neu'n cynnal asesiadau cymwysterau academaidd a galwedigaethol yn haf 2021 yn disgwyl profiad wedi'i baratoi'n well na'r hyn a welwyd yn 2020. Rhaid inni beidio â'u siomi.
Gwybodaeth Bellach
Datganiad Cabinet Llywodraeth Cymru
Datganiad Ysgrifenedig: Adolygiad annibynnol o’r trefniadau ar gyfer dyfarnu graddau cyfres arholiadau haf 2020, a’r ystyriaethau ar gyfer 2021
28 Awst 2020