ColegauCymru yn rhybuddio am effaith ddinistriol toriadau cyllid prentisiaethau

PEXELS3.JPG

Mae ColegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) wedi cyhoeddi data newydd heddiw sy’n amlygu canlyniadau economaidd a chymdeithasol pellgyrhaeddol toriadau cyllid prentisiaethau yng Nghymru. 

Mae’r ymchwil, a gynhaliwyd gan y Ganolfan Ymchwil Economeg a Busnes (Cebr) yn tynnu sylw at gost economaidd a chymdeithasol sylweddol toriadau cyllid prentisiaethau, sy’n effeithio’n arbennig ar y cymunedau mwyaf difreintiedig, a sectorau hanfodol fel gofal iechyd ac adeiladu. Mae’r canfyddiadau’n pwysleisio’r angen am fuddsoddiad parhaus mewn prentisiaethau i gefnogi twf economaidd a datblygu’r gweithlu yng Nghymru. 

O ganlyniad i’r gostyngiad o tua 14% yn y gyllideb, mae’r adroddiad yn amlygu: 

  • Mae bron i 6,000 yn llai o brentisiaethau yn dechrau yng Nghymru eleni 
  • Effaith ‘tymor byr’ o £50.3 miliwn ar yr economi 
  • Y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol ac adeiladu sy'n cael eu heffeithio fwyaf 
  • Mae toriadau ariannol yn effeithio'n anghymesur ar y mwyaf difreintiedig o fewn poblogaeth Cymru

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk, 

“Mae’r data’n peri cryn bryder ac yn tanlinellu effaith ddinistriol toriadau cyllid prentisiaethau ar economi Cymru a’n cymunedau mwyaf bregus. Mae rhaglen brentisiaethau cryf yn hanfodol ar gyfer adferiad economaidd Cymru, gan roi’r sgiliau sydd eu hangen ar unigolion a busnesau i lwyddo. Mae prentisiaethau yn hanfodol i adeiladu Cymru gryfach, wyrddach a thecach.”

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Strategol NTFW, Lisa Mytton, 

"Mae'r canfyddiadau'n rhybudd llym. Heb weithredu brys, rydym mewn perygl o niwed hirdymor i weithlu ac economi Cymru. Rhaid i brentisiaethau barhau i fod yn flaenoriaeth yng nghyllid y llywodraeth i sicrhau ein dyfodol." 

Mae ColegauCymru ac NTFW wedi galw eisoes ar Lywodraeth Cymru i adfer y gyllideb prentisiaethau i lefelau a welwyd cyn colli Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd. Mae canfyddiadau’r ymchwil yn cefnogi’r alwad hon er mwyn lliniaru unrhyw effaith bellach ar y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru y tu hwnt i’r flwyddyn hon. 

Rhaid i Lywodraeth Cymru adfer cyllid ar gyfer y rhaglen brentisiaethau. Mae’n hollbwysig rhoi’r staff a’r sgiliau sydd eu hangen ar ein gwasanaethau cyhoeddus i wella canlyniadau ac i roi’r sgiliau sydd eu hangen ar fusnesau i dyfu’r economi.

Gwybodaeth Bellach

Adroddiad Cebr ar gyfer ColegauCymru ac NTFW
Effaith Toriadau Cyllid Prentisiaethau yng Nghymru
Tachwedd 2024

Rachel Cable, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus
Rachel.Cable@ColegauCymru.ac.uk

 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.