Heddiw mae ColegauCymru wedi galw am gyfarfod brys ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn ymateb i gyhoeddiad adroddiad Pwyllgor Materion Cymru Wales and the Shared Prosperity Fund: Priorities for the replacement of EU structural funding (1).
Mae’r adroddiad yn rhybuddio, gyda dim ond tri mis i fynd tan ddiwedd cyfnod pontio Brexit, bod braidd dim cynnydd wedi’i wneud gan lywodraeth y DU i ddisodli cronfeydd yr UE. Heb unrhyw fanylion sylweddol gan weinidogion y DU am eu cynlluniau, mae ystod o faterion heb eu datrys o hyd.
Dangosodd ymchwil gan ColegauCymru fod sefydliadau addysg bellach yng Nghymru, dros y 10 mlynedd hyd at 2016, wedi bod yn rhan o ddarparu prosiectau a ariennir gan yr UE i gyfanswm gwerth bron i £600m, naill ai fel arweinydd neu bartner prosiect (2).
Dywedodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru,
“Mae cyhoeddiad heddiw yn peri pryder mawr i’r sectorau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith, a Chymru’n ehangach. Heb unrhyw gynllun clir ar gyfer sut y bydd £375m y flwyddyn o arian Ewropeaidd yn cael ei ddisodli, rydym yn parhau i fod mewn cyflwr o limbo. Mae Cymru’n dibynnu’n fawr ar gronfeydd strwythurol yr UE i gefnogi datblygiad economaidd, seilwaith, busnes a sgiliau.”
Wrth inni dynnu’n agosach fyth at ‘Brexit caled’, mae’r sefyllfa ar gyfer cyllid, gan gynnwys cyllid sgiliau a phrentisiaethau, o Ebrill 2021 yn peri pryder mawr. Mae gwybodaeth a rhywfaint o sicrwydd ynghylch sut y bydd cyllid amnewid yn gweithredu yn hanfodol er mwyn i golegau addysg bellach gefnogi economïau lleol a’r gymdeithas ehangach wrth inni geisio addasu i sefyllfa newydd Cymru y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Mae hyn yn bwysicach fyth wrth inni ddelio ag effeithiau parhaus pandemig Covid19.
Roedd llywodraeth y DU i fod i gyhoeddi ei hymgynghoriad ar y Gronfa Ffyniant Gyffredin erbyn diwedd 2018. Ac eto ym mis Hydref 2020, nid oes cynnig clir o hyd ar sut y bydd amnewid arian Ewropeaidd yn gweithredu. Nid yw hyn yn dderbyniol.
Ychwanegodd Iestyn Davies,
“Dylai blaenoriaethau ac amcanion y Gronfa Ffyniant Gyffredin fod i wella ansawdd bywyd pobl yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig trwy ymyriadau prosiect i annog mathau o weithgaredd economaidd buddiol ac amgylcheddol gyfrifol”.
“Nid yw’r oedi parhaus hwn yn dderbyniol ac mae’n debygol o adael llawer o ddinasyddion Cymru gyda’r farn nad yw llywodraeth y DU yn poeni amdanynt, na’u dyheadau am gyflogaeth a’u gallu i ennill cyflog ystyrlon trwy yrfa werth chweil.”
Rydym yn parhau i bryderu am y diffyg sylw a roddir gan Swyddfa Cymru i'r mater allweddol o ariannu cyllid ar gyfer rhaglenni mewn sgiliau ac addysg oedolion, ac amharodrwydd yr Ysgrifennydd Gwladol i gwrdd â ni'n uniongyrchol i drafod. Rydym nawr yn gofyn am gamau brys i ddod i ddatrysiad cytûn.
Gwybodaeth Bellach
(1) House of Commons Welsh Affairs Committee:
Wales and the Shared Prosperity Fund: Priorities for the replacement of EU structural funding
2 Hydref 2020
(2) Involvement of Welsh Further Education colleges and institutions in EU funding - An overview of the financial uptake
Tachwedd 2017