Mae ColegauCymru wedi croesawu datganiad heddiw gan y Gweinidog Addysg mewn perthynas â’r cyllid ychwanegol o fwy na £50 miliwn ar gyfer prifysgolion a cholegau.
Dywedodd Cadeirydd ColegauCymru a Phrif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai, Dafydd Evans,
"Rydym yn galonogol gan y cyhoeddiad diweddar hwn a fydd yn caniatáu i sefydliadau addysg bellach gynllunio ar gyfer dychwelyd dysgwyr yn ddiogel i ddarpariaeth wyneb yn wyneb o fis Medi. Rydym yn cydnabod y nifer fawr yr heriau sy'n wynebu Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd ac yn cydnabod y gefnogaeth a gafwyd gan bob rhan o'r llywodraeth".
Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,
"Er ein bod yn croesawu’n gynnes y cyhoeddiad heddiw, erys cwestiynau o hyd ynghylch ymarferoldeb sut y gall pob dysgwr addysg bellach ddychwelyd i addysg yn ddiogel o fis Medi. Mae hyn yn arbennig o bwysig i’r nifer fawr o fyfyrwyr 19 oed a hŷn lle mae’r wyddoniaeth yn dweud wrthym fod angen eu trin fel oedolion".
Mae ColegauCymru wedi ymrwymo i weithio ar y cyd gyda’n haelodau a chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i ateb cyn gynted â phosibl.