Mae staff Coleg Caerdydd a’r Fro wedi mwynhau arhosiad preswyl gwych yn ddiweddar yn canolbwyntio ar ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Wedi’i lleoli ar lan llyn prydferth Tegid ger y Bala yng Ngogledd Cymru, mae Canolfan Gweithgareddau Awyr Agored yr Urdd Glan-llyn yn darparu ystod o gyfleoedd dydd a phreswyl i blant ac oedolion fel ei gilydd ymdrochi yn yr iaith Gymraeg.
Dywedodd Cydlynydd Cwricwlwm Cymraeg Coleg Caerdydd a’r Fro, Nicola Buttle,
“Roeddem yn falch iawn o dderbyn croeso cynnes gan Llinos a’i thîm yng Nglan-llyn a chawsom gyfle i ddatblygu sgiliau Cymraeg ar gyfer y gweithle gydag amrywiaeth o weithgareddau hwyliog.”
Mwynhaodd y Grŵp daith 2 filltir olygfaol a chlywed am chwedlau a hanes Cymru ar ben y Garth Bach. Roedd canu Cymraeg o gwmpas y tân hefyd!
Nod Cynllun Cymraeg Gwaith yw datblygu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Yn ystod y flwyddyn, mae hyd at 700 o staff o’r sectorau Addysg Bellach ac Uwch ledled Cymru wedi cael y cyfle i ddysgu Cymraeg o dan y Cynllun.
Ychwanegodd Cydlynydd Cymraeg Gwaith ColegauCymru, Nia Brodrick,
“Mae hwn yn brosiect gwych. Bellach yn ei phumed flwyddyn, gan roi cyfle i staff y sector addysg bellach wella eu sgiliau Cymraeg mewn amrywiaeth o ffyrdd, wedi’u teilwra i anghenion unigol.”
Gwybodaeth Bellach
Os hoffech ymuno â Chynllun Cymraeg Gwaith eich coleg, cysylltwch ag Adnoddau Dynol, eich Rheolwr y Gymraeg neu e-bostiwch Nia Brodrick.