Colegau ledled Cymru yn croesawu penodiad Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan

Senedd - Julian Nyča - CC BY-SA.jpg

‘Bydd etholiad Eluned Morgan fel ein Prif Weinidog newydd yn derbyn croeso cynnes gan golegau ledled Cymru. Mae hi wedi bod yn ffrind i’r sector addysg bellach ers tro ac mae’n deall y cyfraniad y gall ei wneud i sbarduno twf economaidd, darparu’r sgiliau ar gyfer Net Sero a rhoi’r cyfle i bawb wireddu eu potensial. Fodd bynnag, mae pwysau ariannu difrifol ar addysg bellach ac mae'n hanfodol bod ein dysgwyr a'n staff yn cael y buddsoddiad a'r adnoddau sydd eu hangen arnynt’.

‘Fel y fenyw gyntaf erioed i ddal y swydd, gwn y bydd hi’n ysbrydoliaeth i ddysgwyr a phrentisiaid benywaidd ledled Cymru, gan ddangos nad oes terfyn ar yr hyn y gallant ei gyflawni’.

‘Mae’n hanfodol bod y Prif Weinidog yn cydnabod gwerth addysg bellach, prentisiaethau ac addysg oedolion i economi Cymru, ond hefyd y potensial i golegau weithio gydag ysgolion i wella presenoldeb a chyrhaeddiad’.

David Hagendyk, Prif Weithredwr ColegauCymru

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.