Yn dilyn cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru a’r sylw cysylltiedig yn y cyfryngau, mae tri ar ddeg aelod ColegauCymru, wedi cytuno, lle mae asesiadau risg colegau yn pennu eu hangen, y byddant yn cyflwyno’r defnydd gorfodol o orchuddion wyneb mewn ardaloedd cymunedol o golegau addysg bellach.
Yn dilyn ystyriaeth ofalus, a chyda'r mesurau diogelwch priodol ar waith, mae arweinwyr colegau o'r farn mai penderfyniad clir a diamwys yw'r ffordd orau bosibl ymlaen ac mae'n dileu unrhyw amheuaeth ym meddyliau dysgwyr a staff fel ei gilydd. Y prif bryder i bob coleg, fel bob amser, yw sicrhau iechyd, diogelwch a lles pawb wrth iddynt ddychwelyd i'r coleg yr wythnos nesaf.
Dywedodd Iestyn Davies Prif Weithredwr ColegauCymru, y corff sy’n cynrychioli’r colegau,
“Rydym yn gwerthfawrogi bod rhesymau a gydnabyddir yn gyffredin i beidio â defnyddio masgiau wyneb na gorchuddion wyneb eraill, megis pryderon iechyd. Bydd colegau’n defnyddio ymateb rhesymol a chymesur a byddant yn cymryd agwedd gytbwys tuag at orfodi. Fodd bynnag, mae'r penderfyniad i fynnu eu defnyddio yn rhoi eglurder i staff a dysgwyr."
Gydag addysgu a dysgu yn digwydd ar draws ystod eang o leoliadau, yn aml le mae angen cyfarpar diogelu personol eisoes i fodloni safonau diwydiant, bydd colegau'n darparu cyngor a chymorth i staff a dysgwyr ar ddewis a defnydd gorchudd wyneb priodol ochr yn ochr â mesurau eraill maent yn eu cymryd i leihau risg.
Bydd mesurau a mecanweithiau rheoli penodol hefyd yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer gweithgareddau sy'n digwydd y tu allan i adeiladau a reolir gan sefydliadau addysg bellach.
Daeth Iestyn Davies i'r casgliad,
“Mae'r amwysedd ynghylch defnyddio gorchuddion wyneb wedi achosi dryswch ac yn parhau i wneud hynny. Mae'r sector addysg bellach wedi dod ynghyd i waredi ansicrwydd a darparu eglurder er mwyn tawelu meddwl dysgwyr, rhieni neu ofalwyr a staff fel ei gilydd.”
Bydd timau arweinyddiaeth colegau yn adolygu eu hymatebion unigol wrth i'r tymor ddatblygu.