Colegau addysg bellach Cymru yn cychwyn cynllun newydd i rymuso’r genhedlaeth nesaf o lysgenhadon ifanc lles actif

12.06.15 MH College Sports Cardiff 42.JPG

Roedd cyfarfod agoriadol y Rhaglen Llysgenhadon Ifanc Addysg Bellach (FEYA) a gynhaliwyd ar 19 Ebrill 2021 yn arwydd o lansiad cynllun newydd i rymuso dysgwyr i ddod yn arweinwyr cymheiriaid mewn lles actif. 
  
Mae ColegauCymru ac YA Cymru wedi dod ynghyd i greu'r Rhaglen FEYA sydd wedi'i chynllunio i gefnogi gwaith llysgenhadon ifanc yn y sector addysg bellach yng Nghymru, yn enwedig y rhai sy'n gweithio ym meysydd Lles Actif a Chwaraeon. Mae Strategaeth Lles Actif ColegauCymru yn cefnogi colegau i wella lles emosiynol, cymdeithasol a chorfforol yn y sector, gan hyrwyddo cymunedau coleg iachach a gweithlu sy'n addas ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. 
  
Dywedodd Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Chwaraeon ColegauCymru,

“Bydd y datblygiad newydd cyffrous hwn yn grymuso dysgu a chefnogaeth cymheiriaid yn ogystal â gwella gweithio mewn partneriaeth. Bydd yn caniatáu rhannu profiadau ac yn cydnabod rôl pobl ifanc yn y sector.”

Mae colegau ledled Cymru eisoes yn gwneud gwaith rhagorol gyda dysgwyr sy'n cael eu harwain a'u cymell gan lysgenhadon. Bydd yr un arweinwyr ifanc hyn nawr yn dechrau rhannu'r profiadau hyn a'r buddion tymor hwy cysylltiedig. Bydd Rhaglen FEYA yn cefnogi rhaglenni llysgenhadon presennol mewn addysg bellach, yn datblygu ymgysylltiad ag ystod ehangach o ddysgwyr a rhanddeiliaid wrth greu gweithgareddau a chyfleoedd newydd i'r cysyniad dyfu lle nad yw wedi'i sefydlu eisoes. 
  
Ychwanegodd Swyddog Datblygu YA Cymru, Aled Davies,

“Mae angen rhaglen fel hon ers cryn amser a bydd yn gyfle gwych i lysgenhadon ifanc rannu syniadau ymarferol ac arfer gorau gyda chyfoedion mewn colegau eraill. Bydd hefyd yn gyfle gwych iddynt ddatblygu perthnasoedd ag unigolion allweddol yn y sector.”

 Ychwanegodd Cadeirydd Grŵp y Strategaeth Lles Actif ColegauCymru, Simon Pirotte,

“Rydym yn falch iawn o gefnogi’r Rhaglen hon. Mae'n bwysig bod pobl ifanc yn ein colegau'n cael llais a fydd yn eu helpu i ddylanwadu ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol ar faterion pwysig. Bydd dysgwyr wrth wraidd Rhaglen FEYA ac yn cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, cyfathrebu a chynllunio ar gyfer y dyfodol."


 Ariennir prosiect Lles Actif ColegauCymru fel rhan o bartneriaeth genedlaethol gyda Chwaraeon Cymru.


Gwybodaeth Bellach 

Strategaeth Lles Actif ColegauCymru 2020 - 2025
Gwella iechyd a lles cymunedau colegau ledled Cymru 
 
YA Cymru 
Gwefan | Twitter

Chwaraeon Cymru 
Gwefan | Twitter 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.