Heddiw mae colegau addysg bellach yn llongyfarch dysgwyr ledled Cymru wrth iddynt dderbyn eu canlyniadau cymwysterau TGAU a galwedigaethol a chynllunio eu camau nesaf yn yr hyn a fu'n ail flwyddyn academaidd heriol i'r sector addysg.
Dywedodd Cadeirydd ColegauCymru, Guy Lacey,
“Rydyn ni wrth ein bodd i longyfarch yr holl ddysgwyr sy'n derbyn canlyniadau heddiw yn dilyn 18 mis anodd. Rydym hefyd yn anfon ein diolch diffuant i'n cydweithwyr addysg, a rhieni a gofalwyr fel ei gilydd sydd wedi cefnogi pobl ifanc wrth iddynt lywio'r cyfnod hwn. Mae ein Timau Gwasanaethau Dysgwyr a Derbyniadau wrth law i ddarparu cyngor a chefnogaeth ar gyfer y cam nesaf o ddysgu.”
Mae colegau addysg bellach yn edrych ymlaen unwaith eto at gefnogi a thywys dysgwyr i benderfynu ar y cam nesaf yn eu taith addysg. Gyda chynnig eang, mae colegau addysg bellach mewn sefyllfa ddelfrydol i allu diwallu ystod eang o anghenion, gan ganiatáu iddynt gefnogi pob math o ddysgwyr i gyflawni eu potensial llawn. Anogir myfyrwyr i gysylltu â'u coleg lleol i ddarganfod mwy am yr opsiynau sydd ar gael iddynt.
Yn dilyn y penderfyniad i ganslo arholiadau am ail flwyddyn, mae colegau addysg bellach wedi parhau i weithio'n ddiflino ac yn ofalus i ddilyn canllawiau a osodwyd gan sefydliadau dyfarnu a rheoleiddwyr yn y broses ddyfarnu. Gyda nifer o elfennau cymhleth, ar lefel sefydliad a sefydliad dyfarnu, mae ColegauCymru yn ddiolchgar am arbenigedd ac ymrwymiad ein holl gydweithwyr addysg wrth sicrhau bod cymwysterau'n cael eu dyfarnu'n gywir, yn deg ac yn gadarn.
Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,
“Rydym yn llongyfarch dysgwyr, staff a rhieni yn gynnes yn eu cyflawniadau ar y cyd heddiw ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt ar gyfer y dyfodol. Mae colegau addysg bellach yng Nghymru wedi ymrwymo i gefnogi pob dysgwr, waeth beth fo'r canlyniadau maen nhw'n eu derbyn.”
“Mae ColegauCymru yn credu ei fod yn ddisgwyliad sylfaenol bod pobl ifanc yn cael chwarae teg o ran eu haddysg, p'un a ydyn nhw'n dewis dilyn llwybr academaidd, galwedigaethol neu dechnegol. Gyda Covid-19 wedi newid y ffordd rydyn ni'n gwerthfawrogi rhai galwedigaethau allweddol, mae'n bryd symud y tu hwnt i siarad am gydraddoldeb parch a sicrhau bod gan y genhedlaeth hon o ddysgwyr ddewis dilys am y llwybrau maen nhw am eu dilyn.”
Gwybodaeth Bellach
Datganiad i'r Wasg Llywodraeth Cymru
Llongyfarchiadau mawr i ddysgwyr TGAU a galwedigaethol ledled Cymru" - y Gweinidog Addysg
12 August 2021