Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (RCT) yn destun cyfyngiadau lleol i reoli Coronafirws tebyg i’r hyn a welir yng Nghaerffili. Cyhoeddwyd y penderfyniad gan y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, mewn ymgais i fynd i’r afael â’r cynnydd sydyn yn nifer yr achosion Covid19 a gofnodwyd dros y dyddiau diwethaf.
Y sefyllfa mewn colegau
Bydd y cyfyngiadau ar gyfer RCT yn cychwyn yn ffurfiol am 6.00pm ar 17 Medi, fodd bynnag, bydd colegau addysg bellach yn parhau i agor eu drysau ac yn gwbl weithredol er mwyn cyfyngu'r aflonyddwch i addysg myfyrwyr gymaint â phosibl yn ystod yr amser anodd hwn. Mae teithio i mewn ac allan o'r sir, ar gyfer dysgwyr a staff coleg, yn cael ei ystyried yn teithio hanfodol ac fe'i caniateir.
Mae'r cynnydd mewn cyfraddau heintiau yn y gymuned ehangach yn debygol o fod yn effeithio ar nifer yr achosion o Covid19 a welir mewn colegau. Rydym yn ymwybodol bod codiadau yn yr haint yn y boblogaeth yn gyffredinol yn gysylltiedig â ffactorau fel grwpiau'n cyfarfod mewn cartrefi a throsglwyddiad heintiau o ganlyniad i wyliau a theithio.
Dywedodd Iestyn Davies Prif Weithredwr ColegauCymru,
“Gall rhieni, aelodau teulu ehangach a ffrindiau i gyd wneud eu rhan i sicrhau bod ysgolion a cholegau yn aros ar agor trwy ddilyn y canllawiau clir ar bellhau cymdeithasol a hylendid. Ein nod yw sicrhau bod addysgu a dysgu'n parhau mewn ffordd mor ddiogel â phosibl, yn enwedig i bobl ifanc sydd wedi gweld aflonyddu ar eu haddysg eisoes a'u cynlluniau wedi'u gohirio. Mae angen help pawb arnom i wneud hynny.”
Rydym yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n agos a byddwn yn darparu diweddariadau pellach cyn gynted ag y cânt eu cyhoeddi. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau iechyd, diogelwch a lles dysgwyr a staff, sy'n parhau i fod yn flaenoriaeth inni.
Gwybodaeth Bellach
Anogir dysgwyr, rhieni a staff sy'n cael eu heffeithio gan y cyfyngiadau yng Nghaerffili a RCT i ddilyn gwefannau colegau a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau diweddaraf ac arweiniad pellach.
Coleg Caerdydd a’r Fro | @CAVC
Coleg Gwent | @ColegGwent
Coleg y Cymoedd | @ColegyCymoedd
Y Coleg Merthyr Tudful | @CollegeMerthyr
Coleg Penybont | @BridgendCollege
Coleg Catholig Dewi Sant | @StDavidsColl
Datganiad i'r Wasg Llywodraeth Cymru:
Cyfyngiadau lleol i reoli’r coronafeirws yn Rhondda Cynon Taf
16 Medi 2020