O 1 Awst 2021 bydd holl brentisiaethau adeiladu a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn cael eu harwain gan rwydwaith 11 coleg addysg bellach Cymru.
Er gwaethaf y newid sylweddol yn y trefniadau contractio, mae'r un ar ddeg coleg yn hyderus, oherwydd y ffordd bresennol y mae prentisiaethau adeiladu yn cael eu his-gontractio iddynt gan CITB, na fydd fawr o newid amlwg i brentisiaid presennol nac yn y dyfodol.
Dywedodd Dr Barry Walters, Pennaeth Coleg Sir Benfro, a Chadeirydd Grŵp Strategol Dysgu Seiliedig ar Waith ColegauCymru,
“Ni ddylai newidiadau i’r mecanweithiau cyllido a chyflawni effeithio ar brentisiaid unigol gan gynnwys y rhai y mae pandemig Covid19 wedi gohirio cwblhau eu rhaglen.”
“Bydd prentisiaid sy’n symud i’r lefel nesaf yn derbyn yr un gefnogaeth, arweiniad ac asesiad wrth iddynt gychwyn ar eu rhaglenni newydd. Wrth symud ymlaen, un o fuddion y trefniadau newydd yw y bydd prentisiaid a chyflogwyr fel ei gilydd yn gallu gweithio gyda cholegau a manteisio ar yr holl raglenni a chefnogaeth sydd ar gael mewn colegau addysg bellach. Bydd hyn yn sicrhau bod prentisiaid a chyflogwyr yn cael mynediad at ystod o hyfforddiant a dysgu sgiliau o dan un to.”
Gyda chefnogaeth ColegauCymru, mae colegau unigol yn gweithio gyda CITB i asesu'r ffordd orau i gynorthwyo staff gydag unrhyw newidiadau i berthnasoedd contractio.
Ychwanegodd Dr Walters ymhellach,
“Dylai prentisiaid a darpar fyfyrwyr gysylltu â’u coleg lleol i dderbyn cyngor ar brentisiaethau neu fanylion ar hyfforddiant sgiliau mewn gwaith arall. Gellir hefyd dod o hyd i gefnogaeth i gyflogwyr, gan gynnwys gwybodaeth am gymhellion i gyflogi prentis, yn y coleg lleol.”