Yn ystod y cyfnod heriol hwn, mae #ColegCyson yn gyfle i dynnu sylw at y gwaith eithriadol sy'n digwydd mewn colegau ac sy'n debygol o barhau yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf, ac i ddathlu'r unigolion ysbrydoledig sy'n tynnu at ei gilydd.
Mae colegau'n creu buddion cadarnhaol a sylweddol i gynifer o'u rhanddeiliaid, o ddysgwyr a staff i drethdalwyr, a'r gymuned fusnes lleol ehangach. Ni fu hyn erioed yn fwy amlwg nag yn ystod argyfwng Covid19.
Byddwch yn rhan o’r ymgyrch a rhannwch eich straeon coleg ar draws eich cyfryngau cymdeithasol a'ch gwefannau gan ddefnyddio’r hashnod #ColegCyson. Am fwy o wybodaeth ac am becyn cymorth a logo ymgyrch i'ch cynorthwyo i ledaenu'r neges, dilynwch y ddolen isod.
Lawrlwythwch adnoddau'r ymgyrch