WythnosColegau2025 - Dathlu Gwerth Ymweliadau Tramor i Ddysgwyr Addysg Bellach yng Nghymru

Coleg-Ceredigion1-2048x888.jpg

Fel rhan o #WythnosColegau2025, mae ColegauCymru yn falch o dynnu sylw at y cyfleoedd amhrisiadwy a grëwyd trwy ymweliadau tramor i ddysgwyr a staff addysg bellach yng Nghymru, a wnaed yn bosibl gan raglen Taith a Chynllun Turing. Mae’r profiadau rhyngwladol hyn yn ehangu gorwelion, yn gwella cyflogadwyedd, ac yn grymuso dysgwyr a staff i ddatblygu sgiliau newydd a fydd yn eu gwasanaethu drwy gydol eu gyrfaoedd. 

Rhaglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol Llywodraeth Cymru yw Taith, ac mae wedi bod yn allweddol wrth roi cyfle i ddysgwyr a staff archwilio rhannau newydd o'r byd, o strydoedd prysur Dubai i dirweddau golygfaol Seland Newydd. Trwy gysylltu dysgwyr a staff Cymru â chyfleoedd byd-eang, mae Taith yn meithrin gwell dealltwriaeth o ddiwylliannau amrywiol, yn galluogi staff i ddysgu o arfer gorau dramor, ac yn hyrwyddo cydweithio rhwng sefydliadau addysgol ar draws y byd. 

Y Cynllun Turing yw rhaglen symudedd Llywodraeth y DU sy’n cynnig cyfle i ddarparwyr addysg wneud cais am gyllid i gefnogi eu dysgwyr gyda lleoliadau astudio a gwaith ledled y byd. 

Dywedodd Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru, Siân Holleran, 

“Mae symudedd tramor yn cynnig cyfle i ddysgwyr addysg bellach gael safbwyntiau byd-eang amhrisiadwy, gan feithrin twf personol a gwella eu sgiliau. 

Trwy gamu y tu allan i'w parthau cysur ac ymgolli mewn diwylliannau gwahanol, mae dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth ddyfnach o'r byd, gan roi'r hyder a'r arbenigedd sydd eu hangen arnynt i ffynnu mewn economi fyd-eang sy'n gynyddol ryng-gysylltiedig. Rydyn ni’n helpu i agor drysau i gyfleoedd sy’n newid bywydau sy’n grymuso dysgwyr nid yn unig i gyflawni llwyddiant academaidd ond hefyd i ragori yng ngweithle amrywiol, rhyngwladol yfory. 

Trwy Taith, rydym hefyd yn gallu darparu cyfleoedd i diwtoriaid a rheolwyr addysg bellach gydweithio â’u cyfoedion dramor, i ddysgu o arfer gorau, rhannu syniadau a gwella’r ddarpariaeth yma yng Nghymru.” 

Dyma rai astudiaethau achos ysbrydoledig sy’n dangos effaith gadarnhaol yr ymweliadau tramor hyn: 

Y Coleg Merthyr Tudful - Ymweliad â Dubai Teithiodd staff o'r Coleg Merthyr Tudful i Dubai, lle buont yn archwilio'r arloesiadau diweddaraf mewn technolegau adeiladu a methodolegau rheoli prosiect. Darparodd yr ymweliad gyfleoedd dysgu cyffrous i'r staff sydd bellach yn cael eu rhannu gyda dysgwyr Safon Uwch Amgylchedd Adeiledig.  Profodd y dysgwyr hefyd ymweliad â Dubai ym mis Chwefror 2025 trwy gyllid Cynllun Turing a gynhaliwyd gan y partneriaethau rhyngwladol a ddatblygwyd yn ystod yr ymweliad staff. Darllenwch fwy am eu hymweliad â Dubai

Coleg Ceredigion - Ymweliad ag Alberta, Canada Cafodd dysgwyr o Goleg Ceredigion gyfle i brofi bywyd yn Alberta, Canada, lle buont yn gweithio ochr yn ochr â'u cyfoedion yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan ddysgu am strategaethau a pholisïau ar gyfer gofal iechyd gwledig yn nhalaith Canada. Cynigiodd yr ymweliad gyfle iddynt ddeall cyd-destun byd-eang eu hastudiaethau ac mae wedi galluogi rhai dysgwyr i ymgymryd â phrosiectau ymchwil sydd wedi cyfrannu at gyflawni eu cymwysterau. Darganfyddwch fwy am eu hymweliad ag Alberta

Cydweithwyr Addysg Bellach o Ledled Cymru - Symudedd i Florida Teithiodd dirprwyaeth o staff addysg bellach o Gymru i Florida i archwilio methodolegau ymchwil ac ysgrifennu newydd. Trefnwyd y cyfnewid cydweithredol gan Equal Education Partners ac mae wedi helpu addysgwyr i ddod â syniadau a strategaethau newydd yn ôl i Gymru. Darllenwch fwy am eu symudedd i Florida

Coleg Gŵyr Abertawe Ymweliad â Seland Newydd Ymwelodd aelod o staff o Goleg Gŵyr Abertawe â Seland Newydd i ddysgu am farciau chwarter sy'n gyfeillgar i ddyslecsia. Gan weithio gyda'r tîm niwroamrywiaeth, mae rhai newidiadau a hyfforddiant wedi'u rhoi ar waith yn y coleg a fydd yn gwella'r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr. Dysgwch fwy am yr ymweliad â Seland Newydd

Mae'r astudiaethau achos hyn yn dangos sut mae ymweliadau tramor a ariennir gan Taith yn darparu profiadau sy'n newid bywydau dysgwyr ac addysgwyr. Drwy groesawu dysgu rhyngwladol, mae ein colegau addysg bellach nid yn unig yn gwella sgiliau a gwybodaeth eu dysgwyr a’u staff ond maent hefyd yn eu galluogi i ffynnu mewn gweithlu byd-eang. 

Wrth i ni ddathlu #WythnosColegau2025, rydym yn parhau i hyrwyddo pŵer trawsnewidiol y cyfleoedd byd-eang hyn, gan sicrhau bod dysgwyr a staff yng Nghymru yn cael mynediad i’r byd y tu hwnt i’w hystafelloedd dosbarth. Mae Taith yn darparu'r gefnogaeth a'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y profiadau addysgol bythgofiadwy hyn, gan helpu i lunio dyfodol ein dysgwyr a'n haddysgwyr. 

Gwybodaeth Bellach

Am ragor o wybodaeth am Taith a Chynllun Turing a sut maent yn cefnogi symudedd rhyngwladol yng Nghymru, ewch i wefannau Taith a Chynllun Turing

Siân Holleran, Rheolwr Prosiect Rhyngwladol 
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.