Gyda’r cynllun Cymraeg Gwaith Addysg Bellach wedi dechrau’r 5ed cylch eleni, rydyn ni wedi trefnu digwyddiad i ddathlu, gan edrych ar y llwyddiannau hyd yma ac edrych ymlaen at beth fydd nesaf i’r cynllun.
Bydd llawer ohonoch chi wedi clywed am ein digwyddiad ‘Dathlu a Datblygu Cymraeg Gwaith’ erbyn hyn, fydd yn cael ei gynnal am 10yb ar yr 16eg o Ragfyr.
Bydd yr hanner cyntaf yn benodol ar gyfer dysgwyr Cymraeg Gwaith, gan gynnwys clipiau fideo o ddysgwyr newydd, panel dysgwyr yn trafod eu profiadau a chyfle i glywed ychydig mwy o drosolwg y cynllun dros y blynyddoedd. Bydd ail hanner y sesiwn ychydig yn fwy strategol wrth i ni glywed gan Dona Lewis yn y Ganolfan a chael cyfle i glywed am arfer da o fewn y sectorau Addysg Bellach ac Addysg Uwch.
Er bod dwy ran i’r digwyddiad, argymhelliad am y gynulleidfa darged yw hwn yn unig, mae croeso i bawb yn y ddwy sesiwn,.