Galluogi Adnewyddu: Addysg Bellach a Datblygu Dinasyddiaeth, Galwedigaethau a Chymunedau Busnes Gwell yng Nghymru
Yn ôl yn 2019, cysylltodd ColegauCymru â thîm o ymchwilwyr o fri rhyngwladol ar draws ystod o feysydd i archwilio’r rôl y gallai Addysg Bellach ei chwarae yn nyfodol datblygiad cymdeithasol ac economaidd Cymru. Addaswyd y prosiect i fynd i'r afael â'r pandemig sy'n parhau i ddatblygu.
Mae'r adroddiad sy'n deillio o hyn, sy'n ymdrin â themâu gwell dinasyddiaeth, galwedigaethau a chymunedau busnes, yn creu darllen diddorol. Mae'r camau a awgrymir yn seiliedig ar sut y gallai Addysg Bellach ddefnyddio ei arbenigedd addysgol a sefydliadol i gynorthwyo i ddiwygio'r galw am lafur. Yn benodol, mae angen iddo chwarae rhan fwy gweithredol wrth adeiladu galwedigaethau newydd a bod yn chwaraewr gweithredol wrth ddod â'r holl chwaraewyr perthnasol at ei gilydd i helpu i adfywio a chryfhau cymunedau busnes lleol.
Mae’r tîm ymchwil - yr Athro John Buchanan, Dr Mark Lang, yr Athro Caroline Lloyd, Dr Bruce Smith, yr Athro Karel Williams a'r Athro Julie Froud yn cyflwyno canlyniadau'r ymchwil ac yn edrych i'r dyfodol.