Gwella Sgiliau Arwain - Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth Uwch ColegauCymru

SLDP 4.jpg

Gwella Sgiliau Arwain - Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth Uwch ColegauCymru 

Mae grŵp o uwch arweinwyr o golegau addysg bellach ledled Cymru wedi cwblhau Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth Uwch ColegauCymru, gan nodi cam sylweddol yn eu twf proffesiynol. Wedi'i chynllunio i gryfhau arweinyddiaeth ar draws y sector addysg bellach yng Nghymru, rhoddodd y rhaglen ddwys hon fewnwelediadau amhrisiadwy, hyfforddiant a chyfleoedd dysgu gan gymheiriaid i gyfranogwyr. 

Roedd y rhaglen, a reolir gan ColegauCymru mewn partneriaeth ag AoC Training, ac a gefnogir gan gyllid Medr, hefyd yn gallu tynnu ar brofiad siaradwyr gwadd o bob rhan o’r sector addysg bellach, gan gynnwys Medr, Estyn a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 

Trwy gyfres o fodiwlau preswyl a sesiynau hyfforddi rhithiol, roedd y rhaglen yn galluogi arweinwyr i fyfyrio ar eu heffaith, datblygu strategaethau newydd, ac adeiladu rhwydwaith cryf o gefnogaeth. Mae rhaglenni o’r fath yn helpu i ysgogi newid cadarnhaol ar draws y sector, gan ddod â budd i ddysgwyr, cymunedau a’r economi yn y pen draw. 

Dywedodd Arweinydd y Cwrs, Larry Shulman, 

“Mae’r SLDP yn gyfle unigryw ac amhrisiadwy i uwch arweinwyr mewn addysg bellach gamu’n ôl o’r gwaith dydd-i-ddydd a chanolbwyntio ar eu taith arweinyddiaeth bersonol. Trwy fyfyrio dwfn, dysgu gan gymheiriaid, a hyfforddiant arbenigol, mae cyfranogwyr yn cael safbwyntiau ffres, strategaethau ymarferol, a’r hyder i arwain gyda mwy o effaith. Mae wedi bod yn fraint cefnogi grŵp mor ymroddedig o arweinwyr wrth iddynt ddatblygu’r sgiliau i ysgogi newid ystyrlon yn eu colegau ac ar draws y sector.” 

Strwythur y Rhaglen 

Roedd y SLDP yn cynnwys tri modiwl preswyl deuddydd, pob un wedi'i ddilyn gan sgwrs hyfforddi rithiol 1 awr gyda'r hyfforddwyr uchel eu parch Larry Shulman neu Jackie Smith. Mae'r strwythur hwn yn caniatáu i gyfranogwyr fyfyrio ar eu heffaith bersonol fel uwch arweinwyr a chael safbwyntiau gwahanol gan gydweithwyr ledled y wlad. 

Modiwl 1 Cynhaliwyd y modiwl cyntaf ym mis Tachwedd 2024 ac roedd yn canolbwyntio ar Arwain gydag Effaith Bersonol. Cafodd y cyfranogwyr ddealltwriaeth ddyfnach o’u harddulliau arwain a sut i wella eu heffeithiolrwydd, gan eu galluogi i ddeall mwy amdanynt eu hunain fel uwch arweinwyr a sut i gynyddu eu heffaith yn y dyfodol, ac roeddent yn cynnwys lensys arweinyddiaeth amrywiol a gweithgareddau cydweithredol. 

Modiwl 2 Cynhaliwyd yr ail fodiwl ym mis Chwefror 2025 ac edrychodd ar Arwain yn Strategol, gan alluogi cyfranogwyr i archwilio’r cwestiynau mawr y mae angen i arweinwyr strategol eu gofyn a’u hateb - gan roi ystyriaeth lawn i’r amgylchedd ehangach, gallu presennol eu sefydliad i ymateb iddo - a’r arweinyddiaeth sydd ei hangen ganddynt i wneud iddo ddigwydd. 

Modiwl 3 Roedd y modiwl terfynol, a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2025, yn canolbwyntio ar Arwain Newid Trawsnewidiol a sut i gychwyn, gweithredu ac ymgorffori newid yn llwyddiannus - gan arfogi cyfranogwyr i allu dod â newid gwirioneddol y maent yn gyfrifol amdano a dod â newid i'w sefydliad. 

Ychwanegodd Cyfranogwr y Rhaglen a Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, James Scorey, 

"Roedd yr SDLP o ansawdd uchel, ac wedi'i hwyluso'n dda iawn gan ymarferwyr profiadol. Roedd gwerth y rhaglen nid yn unig yn y cynnwys ond yn y rhwydwaith dibynadwy a sefydlwyd yn gyflym, roedd y rhaglen yn caniatáu i ni myfyrio fel arweinwyr, wrth ddysgu oddi wrth ein gilydd.” 

Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk, ymhellach, 

“Mae arweinyddiaeth gref ac effeithiol yn hanfodol ar gyfer llwyddiant addysg bellach yng Nghymru. Mae’r SLDP yn darparu gofod amhrisiadwy i uwch arweinwyr wella eu sgiliau arweinyddiaeth, dysgu oddi wrth ei gilydd, ac ysgogi newid cadarnhaol ar draws y sector, yn y pen draw o fudd i ddysgwyr, cymunedau, a’r economi. Mae’n wych gweld cymaint o frwdfrydedd gan gyfranogwyr, ac edrychaf ymlaen at weld sut mae’r rhaglen yn parhau i lywio arweinyddiaeth yn ein colegau.” 

Gwybodaeth Bellach 

I ddysgu mwy, cysylltwch â Chydlynydd y Rhaglen, Rob Baynham Robert.Baynham@ColegauCymru.ac.uk  

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.