Sesiwn Grynhoi EQAVET

Faceless young female writing.png

Mae ColegauCymru wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil yn edrych ar olrhain graddedigion galwedigaethol mewn gwledydd ar draws Ewrop - h.y. pen taith myfyrwyr sydd wedi cwblhau cyrsiau galwedigaethol - mewn gwledydd ac ardaloedd ledled Ewrop.

Yn dilyn trafodaethau gyda chwe gwlad, rydym wedi cael y cyfle i weld amrywiaeth o systemau ar waith o'r rheiny sy’n sefydlog ers tipyn i’r rhai sy’n dechrau eu siwrnai ar hyn o bryd.

Prif Weithredwr ColegauCymru, Iestyn Davies fydd yn hwyluso'r digwyddiad hwn. Yn ymuno ag ef fydd Phil Whitney, NCP ar gyfer EQAVET yng Nghymru a Llŷr Roberts, Cyfarwyddwr BlwBo, wrth iddynt drafod yr ymchwil olrhain Graddedigion galwedigaethol a gynhaliwyd. Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau.

Ymunwch gyda ni wrth i ni drafod ein canfyddiadau, edrych ar arfer orau a chynnig rhai syniadau i'r ffordd ymlaen. Os ydych chi'n gweithio yn y sector addysg bellach, yn edrych ar daith graddedigion neu â  diddordeb yn y maes, ymunwch gyda ni ar gyfer y digwyddiad hwn.

Manylion

Dyddiad: Dydd Mawrth 23 Mawrth 2021
Amser: 10.00am - 11.00am (30 munud dewisol ychwanegol ar gyfer trafodaeth anffurfiol (11.00am - 11.30am)
Lleoliad: Ar-lein - Zoom

Archebwch Le

Gobeithio y byddwch chi'n gallu ymuno â ni ac edrychwn ymlaen at eich croesawu. Yn y cyfamser, cysylltwch â Nia Brodrick gydag unrhyw gwestiynau. Mae croeso i chi rannu'r gwahoddiad hwn gyda chydweithwyr perthnasol.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.