Heddiw mae ColegauCymru wedi llongyfarch y Fonesig yr Athro Julie Lydon a’r Athro David Sweeney ar eu penodiadau i swyddi allweddol yn y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil sydd newydd ei ffurfio.
Yn dilyn gwrandawiad cyn penodi a gynhaliwyd mewn cyfarfod Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ar 15 Rhagfyr, bydd y Fonesig yr Athro Julie Lydon yn ymgymryd â rôl Cadeirydd y Bwrdd. Bydd yr Athro David Sweeney yn cadeirio’r Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi a thra hefyd yn cymryd rôl y Dirprwy Gadeirydd.
Dywedodd Cadeirydd ColegauCymru Guy Lacey,
“Mae’r sector addysg bellach yn estyn ein llongyfarchiadau i Julie a David ar eu penodiadau.
“Rydym wedi dweud o’r cychwyn ei bod yn hanfodol bod y rhai sy’n arwain y Comisiwn newydd yn deall anghenion addysg bellach ac yn cydnabod amrywiaeth y dysgwyr rydym yn eu cefnogi a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Dros y ddegawd ddiwethaf rydym wedi adeiladu perthynas gadarnhaol ac adeiladol gyda Llywodraeth Cymru. Mae'r dyddiau o addysg bellach yng Nghymru yn teimlo fel cynnig ail gyfradd bellach yn y gorffennol ac mae’n hanfodol bod y Comisiwn newydd yn parhau â’r gwaith hwn.”
“Er bod eu harbenigedd a’u profiad yn sefyll yn gadarn yn y sector addysg uwch, edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw i sicrhau bod anghenion pob dysgwr addysg bellach yn cael eu diwallu ac y gallwn gyflawni ein gweledigaeth gyffredin o sector ôl-16 o safon fyd-eang.”
Gwybodaeth Bellach
Datganiad Cabinet
Datganiad Ysgrifenedig: Sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil – Penodi’r Cadeirydd a'r Dirprwy Gadeirydd
22 Rhagfyr 2022
Lucy Hopkins, Rheolwr Cyfathrebu
Lucy.Hopkins@ColgeauCymru.ac.uk