Croesewir estyniad i gyllid prosiect Erasmus+ 2020

Europe.jpeg

Mae estyniadau ar gyfer prosiectau symudedd dysgwyr a staff Erasmus+ 2020 hyd at Ragfyr 2023 wedi derbyn croeso cynnes gan ColegauCymru Rhyngwladol. 

Mae ColegauCymru Rhyngwladol yn falch o gadarnhau y gellir defnyddio cyllid Erasmus+ ar gyfer lleoliadau gwaith pythefnos ledled Ewrop ar gyfer 824 o ddysgwyr galwedigaethol a phrentisiaid hyd at 30 Rhagfyr 2023. 

Yn ogystal, yn dilyn nifer o heriau a ddaeth yn sgil cyfyngiadau teithio a osodwyd oherwydd Pandemig Covid19, bydd yr estyniad hwn yn caniatáu amser ychwanegol i gynllunio 3 ymweliad staff ag Iwerddon, Norwy ac Awstria i archwilio dysgu proffesiynol staff galwedigaethol a datblygu fframwaith dysgu proffesiynol. 

Dywedodd Rheolwr Prosiect ColegauCymru Rhyngwladol Sian Holleran:

“Rydym yn ddiolchgar am yr amser ychwanegol i allu cynllunio lleoliadau gwerthfawr ar gyfer dysgwyr addysg bellach a staff fel ei gilydd. Mae cyfleoedd datblygu tramor yn gydnaws â chymwysterau dysgwyr yng Nghymru ac yn cynnig profiadau newid bywyd i bobl ifanc nad ydynt efallai erioed wedi ystyried cyfleoedd cyflogaeth y tu hwnt i Gymru. Mae staff addysg bellach hefyd yn elwa ar gyfleoedd i ddysgu arfer da a syniadau newydd o fannau eraill”. 

Gwybodaeth Bellach 

Mae ein Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ac Ewropeaidd Siân Holleran yn arwain y Rhaglen Erasmus+ ar ran ColegauCymru Rhyngwladol. Cysylltwch â Siân am fwy o wybodaeth: Sian.Holleran@colegaucymru.ac.uk  

Erasmus+ 

Erasmus+ yw rhaglen yr UE i gefnogi addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon yn Ewrop. Ewch i'r wefan am fwy o wybodaeth. 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.