Cydweithwyr addysg bellach i fynychu Cyngres Flynyddol Canada ar gyfer colegau a cholegau polytechnig

pexels-luis-quintero-2774556.jpg

Mae’n bleser gan gydweithwyr o bob rhan o’r sector addysg bellach yng Nghymru gael y cyfle i fynychu cyngres flynyddol Ffederasiwn Colegau a Pholytechnig y Byd/Colegau a Sefydliadau Canada, ym Montreal, Canada y mis hwn. 

Mae Cymru Fyd-eang yn trefnu dirprwyaeth allanol o Benaethiaid o golegau ledled Cymru i fynychu’r digwyddiad deuddydd a gynhelir ar 23-25 Ebrill ac a fydd yn dod ag arweinwyr ôl-16 o bob rhan o’r byd at ei gilydd yn yr hyn a fydd yn ddigwyddiad mwyaf o’i fath. 

Bydd y gyngres flynyddol yn ffocysu’n gryf ar gyfres o weithgareddau cofleidiol gyda’r nod o godi proffil y sector addysg bellach yng Nghymru tra’n hwyluso cyfleoedd ar gyfer partneriaethau gyda sefydliadau addysg bellach a sefydliadau perthnasol eraill yng Nghanada ac yn fyd-eang. 

Mae aelodaeth World Federation of Colleges and Polytechnics (WFCP) yn cynnwys 22 o wledydd, gan gynnwys India, UDA a Chanada, sydd oll yn farchnadoedd blaenoriaeth i Gymru Fyd-eang. Gyda disgwyl i dros 1,500 o gynrychiolwyr rhyngwladol fynychu, mae hyn yn gyfle gwych i Benaethiaid addysg bellach o Gymru ymgysylltu â’u cymheiriaid rhyngwladol, datblygu partneriaethau newydd a rhannu arfer gorau. 

Dywedodd Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru, Rachel Cable, 

“Rydym yn falch o gael y cyfle i fynychu’r digwyddiad pwysig hwn ac i rwydweithio a dysgu oddi wrth gydweithwyr addysg bellach o bob rhan o’r byd. Bydd y gyngres flynyddol hefyd yn cyd-daro ag arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng ColegauCymru, Prifysgolion Cymru, a Colleges and Institutes Canada, sy’n cael ei hwyluso gan raglen Cymru Fyd-eang ac sy’n cadarnhau’r ymrwymiad ar y cyd i ddatblygu cysylltiadau a rhannu deialog ar addysg bellach ac uwch a chydweithrediad rhwng Cymru a Chanada.” 

Mae datblygu partneriaeth yn flaenoriaeth i Gymru Fyd-eang ac mae’r cyfle i ymgysylltu ag ystod mor eang o randdeiliaid ac arweinwyr rhyngwladol ar y raddfa hon yn fuddiol iawn wrth gychwyn partneriaethau strategol mewn meysydd fel symudedd staff a myfyrwyr, meithrin gallu, addysg drawswladol, a chodi phroffil. Gall partneriaethau cydweithredol hefyd helpu i gynyddu recriwtio myfyrwyr rhyngwladol, rhyngwladoli a chyfoethogi’r cwricwlwm a darparu marchnadoedd newydd ar gyfer gwasanaethau a chynhyrchion addysg bellach. 

Gwybodaeth Bellach 

Cymru Fyd-eang
Mae rhaglen Cymru Fyd-eang yn darparu ymagwedd strategol, gydweithredol at addysg uwch ryngwladol ac addysg bellach yng Nghymru.

Mae’r rhaglen yn bartneriaeth rhwng Prifysgolion Cymru, ColegauCymru, Llywodraeth Cymru, British Council Cymru, a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Mae Cymru Fyd-eang yn dod â phrifysgolion a cholegau ynghyd â sefydliadau partner Cymru Fyd-eang y tu ôl i un strategaeth i gynyddu proffil rhyngwladol, recriwtio, a chyfleoedd partneriaeth i brifysgolion a cholegau er budd myfyrwyr, sefydliadau a Chymru fel cenedl.

O 2022, mae Cymru Fyd-eang yn cael ei hariannu drwy Taith - rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol uchelgeisiol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2021 ac a lansiwyd yn gynnar yn 2022. 

World Congress 2023 - 2022 CICan Connection Conference
23-25 Ebrill 2023 

Lucy Hopkins, Rheolwr Cyfathrebu 
Lucy.Hopkins@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.