Colegau addysg bellach yn ymuno â CITB i wella darpariaeth a chymorth ar draws y sector adeiladu

5.jpg

Mae ColegauCymru ar ran ein haelodau heddiw wedi arwyddo Cytundeb gyda Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu, CITB, i gefnogi darpariaeth cymwysterau adeiladu a chefnogaeth i ddysgwyr, prentisiaid a chyflogwyr ledled Cymru.

Daw hyn wrth i’r diwydiant barhau i fynnu talent, cymwysterau a sgiliau sy’n addas i’r diben, sy’n addas ar gyfer y dyfodol ac a fydd yn cefnogi economi Cymru yn y tymor hir. Bydd y Cytundeb yn cryfhau’r berthynas rhwng colegau addysg bellach a’r diwydiant adeiladu yng Nghymru. 

Meddai Cadeirydd Grŵp Strategol Dysgu Seiliedig ar Waith ColegauCymru, Dr Barry Walters, 

“Daw arwyddo’r Cytundeb hwn ar adeg o newid mawr i’r sector adeiladu yng Nghymru, gyda buddsoddiad diweddar sylweddol mewn darparu a chyflwyno cymwysterau a sgiliau. Mae’r bartneriaeth hon yn allweddol i sicrhau bod dysgwyr a phrentisiaid yn cael yr hyfforddiant a’r sgiliau priodol sydd eu hangen i allu gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r diwydiant a’r economi." 

"Rydym yn falch o sefydlu perthynas waith newydd gyda CITB sy’n dangos ein hymrwymiad ar y cyd i barhau i ymdrechu am ragoriaeth drwy godi meincnodau sgiliau, ychwanegu gwerth at y gweithlu adeiladu a gweithgareddau datblygu busnes.” 

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Ymgysylltu CITB Cymru, Julia Stevens, 

“Mae’r galw am ystod o rolau adeiladu o safon yn parhau i gynyddu. Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i weithio’n agos gyda cholegau addysg bellach a rhanddeiliaid ledled Cymru i wasanaethu anghenion dysgwyr, cyflogwyr a’r diwydiant yn ehangach yn y ffordd orau."

“Bydd y Cytundeb hefyd yn helpu i sicrhau bod dysgwyr yn cael yr hyfforddiant a’r sgiliau cywir, ac yn cefnogi’r diwydiant adeiladu i gael gweithlu medrus, cymwys a chynhwysol nawr ac yn y dyfodol.” 


Gwybodaeth Bellach 

Anogir prentisiaid a darpar fyfyrwyr i gysylltu â'u coleg lleol am gyngor ar brentisiaethau neu ar gyfer hyfforddiant sgiliau mewn gwaith arall. Mae cymorth i gyflogwyr, gan gynnwys gwybodaeth am gymhellion i gyflogi prentis, hefyd ar gael yn eu coleg lleol. 

Jeff Protheroe, Cynghorydd Strategol – Dysgu Seiliedig ar Waith a Chyflogadwyedd
Jeff.Protheroe@ColegauCymru.ac.uk  

Lucy Hopkins, Rheolwr Cyfathrebu 
Lucy.Hopkins@colegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.