Heddiw mae ColegauCymru wedi croesawu cyhoeddiad y Gweinidog Addysg i ddarparu cymorth ariannol ychwanegol i bobl ifanc symud ymlaen i'r cam nesaf yn eu dysgu.
Dywedodd Cadeirydd ColegauCymru, Guy Lacey,
“Bydd y cyhoeddiad yn helpu colegau ac ysgolion i weithio gyda'i gilydd i sicrhau trosglwyddiad effeithiol i addysg ôl-16, boed hynny trwy raglenni astudio galwedigaethol neu academaidd. Bydd yr arian yn galluogi colegau i ddarparu cefnogaeth ychwanegol i ddysgwyr sy'n trosglwyddo i'r coleg ac i'r rheini sy'n dechrau yn eu hail flwyddyn Safon Uwch yn benodol.”
Bydd yr arian yn eistedd ochr yn ochr â chymorth ariannol a ddarperir eisoes gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â phryderon ynghylch iechyd meddwl a lles ac ar gyfer mynediad at gliniaduron a a'r rhyngrwyd.
Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,
“Mae’r cyllid ychwanegol yn arwydd clir o ymrwymiad y Gweinidog i gefnogi dysgwyr yn ystod pandemig Covid19. Rydym yn ddiolchgar am ei chefnogaeth barhaus i'r sector addysg bellach, a'r Genhadaeth Genedlaethol dros Addysg, ar yr adeg heriol hon. Yn sicr, bu heriau pellach o'n blaenau, ond bydd y cyllid ychwanegol hwn yn helpu i gefnogi disgyblion ysgol a dysgwyr addysg bellach i gymryd y cam nesaf yn eu taith ddysgu."
Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn manylion pellach am y dyraniad i addysg bellach i gefnogi'r agenda bwysig hon maes o law.
Gwybodaeth Bellach
Datganiad i’r Wasg Llywodraeth Cymru
£72m yn ychwanegol i gefnogi dysgwyr wrth iddynt ddychwelyd i’r ysgol
8 Mawrth 2021