Mae ColegauCymru heddiw wedi nodi cyhoeddi Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, Codi’r Bar: Sicrhau dyfodol y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu
Mae’r Adroddiad, a gyhoeddwyd yn dilyn ymchwiliad undydd, yn edrych ar yr heriau hirdymor ar gyfer lletygarwch, twristiaeth a manwerthu, a sut i ddatrys materion dwfn a allai rhwystro adferiad cadarn.
Roedd ColegauCymru yn ddiolchgar am y cyfle i ymgysylltu â'r Pwyllgor. Cawsom ein calonogi gan Argymhelliad 13 sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i nodi’n fanylach lle y mae’n gweld cwmpas, yn ei chynllun i ehangu’r rhaglen brentisiaethau, ar gyfer llwybrau gyrfa lefel uwch ym maes twristiaeth a lletygarwch, gan gynnwys ar gyfer gradd-brentisiaethau.
Fodd bynnag, mae'n bwysig osgoi defnyddio dull cul ac ystyried sgiliau ac uwchsgilio yn ehangach. Ar hyn o bryd mae’r sector Addysg Bellach yn cynnig ystod eang o gyrsiau ar draws y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu yn ogystal â chymwysterau proffesiynol cysylltiedig.
Dywedodd Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru, Dr Rachel Bowen,
“Fel y dywedodd cyn Brif Weithredwr ColegauCymru, Iestyn Davies, yn ei dystiolaeth i’r Pwyllgor, mae angen inni feddwl am sut mae swyddi yn y diwydiannau hyn yn cael eu cynllunio a’r mathau o gymwysterau a all eu cefnogi.
Mae ein hadroddiad ‘Galluogi Adnewyddu’ yn amlygu enghraifft gweithwyr gwestai yn yr Almaen a oedd nid yn unig yn tueddu i fod yn fwy cynhyrchiol ond â sgiliau uwch. Roedd eu cyrsiau galwedigaethol yn cynnig hyfforddiant a oedd yn tueddu i fod yn ehangach o ran materion a gwmpesir ac yn fwy cynhwysfawr o ran dyfnder (gan gynnwys sgiliau TG datblygedig).
Mae angen i Gymru archwilio enghreifftiau cadarnhaol o wledydd eraill ynghylch sut i ddatblygu a hyrwyddo gyrfaoedd gwerth chweil yn y diwydiannau hyn sy'n cynnwys ystyried gwahanol ddulliau o ymdrin â chymwysterau a sgiliau. Mae cynnwys y sector Addysg Bellach yn llawn yn hanfodol i hyn.
Mae ColegauCymru wedi ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod arbenigedd y sector yn cefnogi adferiad. Yn y pen draw, mae angen inni ganolbwyntio partneriaethau ar archwilio a galluogi’r sectorau manwerthu, twristiaeth a lletygarwch i ail-ddychmygu ac yna adeiladu dyfodol sy’n denu ac yn cadw staff ac yn cyflawni potensial economi a dinasyddion Cymru. Rhaid i hyn ddigwydd ar y cyd ag addysg bellach a rhanddeiliaid eraill.”
Gwybodaeth Bellach
Adroddiad Y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd
Codi'r Bar: Sicrhau dyfodol y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu
Gorffennaf 2022
Adroddiad ColegauCymru
Galluogi Adnewyddu: Addysg Bellach a Datblygu Dinasyddiaeth, Galwedigaethau a Chymunedau Busness Gwell yng Nghymru