Heddiw, mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi ei fod am adael ei swydd.
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, Dave Hagendyk,
“Hoffai ColegauCymru ddiolch i’r Prif Weinidog am ei arweiniad a chefnogaeth ei lywodraeth i’r sector addysg bellach, yn enwedig drwy’r heriau a gyflwynwyd i golegau yn sgil pandemig Covid. Mae wedi arwain Cymru gydag uniondeb a thosturi a dymunwn yn dda iddo ym mha bynnag beth sydd nesaf iddo.
Dylai’r Prif Weinidog nesaf groesawu addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith fel y sector a all ysgogi ein hadferiad economaidd a rhoi’r cyfle i bobl o bob oed newid eu bywydau drwy addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel.
Rhaid i hyn olygu bod gan golegau gyllideb ddigonol i ddarparu addysg bellach a phrentisiaethau i ddysgwyr a chyflogwyr a bod strategaeth addysg a hyfforddiant galwedigaethol sy’n cyd-fynd yn agos â blaenoriaethau economaidd a diwydiannol Cymru.
Er mwyn i golegau chwarae eu rhan mewn darparu’r Gymru gryfach, wyrddach a thecach yr ydym i gyd am ei gweld, mae angen y cymorth ariannol parhaus arnom i sicrhau y gallwn roi’r o ansawdd uchel y maent yn ei haeddu i ddysgwyr a bod cyflogwyr yn gallu manteisio ar y sgiliau y mae arnynt eu hangen i dyfu ar eu cyfer."