Mae ColegauCymru wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn penodi ein cyn Cadeirydd, Sharron Lusher, i arwain Bwrdd newydd a fydd yn adolygu’r cynnig o gymwysterau galwedigaethol yng Nghymru.
Mae Sharron Lusher, sydd hefyd yn gyn Pennaeth Coleg Sir Benfro, yn dod â dealltwriaeth gynhwysfawr o’r sector addysg bellach, busnes a chymwysterau galwedigaethol i’r rôl. Croesewir ei phenodiad i Gadeirio’r Bwrdd Adolygu Cymwysterau Galwedigaethol sydd newydd ei sefydlu, yn enwedig yng nghyd destun yr awydd i sicrhau cynnig cynhwysfawr o gymwysterau Cymreig.
Dywedodd Cynghorydd Strategol ColegauCymru ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith a Chyflogadwyedd, Jeff Protheroe,
“Mae cymwysterau galwedigaethol yn newid yn gyson i ddiwallu anghenion yr economi, diwydiant a dysgwyr. Mae Cymru’n ddibynnol iawn ar y farchnad bresennol ledled y DU. Mae newidiadau i’r system gymwysterau yn Lloegr yn cael effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol yng Nghymru a allai fod yn niweidiol i ddysgwyr, darparwyr a chyflogwyr fel ei gilydd.”
“Bydd angen i’r Bwrdd Adolygu sicrhau bod cymwysterau galwedigaethol yn addas i’r diben ac yn addas ar gyfer y dyfodol er mwyn gallu cefnogi a gwella tirwedd economaidd Cymru, sy’n newid yn gyflym, yn ddigonol a sicrhau bod dysgwyr yn cael pob cyfle i lwyddo.”
Mi fydd hefyd yn hanfodol ystyried cyfeiriad darpariaeth addysg a hyfforddiant ôl-16 yn y dyfodol yng nghyd-destun newidiadau arfaethedig i’r sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol (AHO). Mae hyn hyd yn oed yn fwy perthnasol o ystyried pasio Bil y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.
Mae angen i Gymru sicrhau cydraddoldeb gwirioneddol rhwng cymwysterau academaidd a galwedigaethol fel bod dysgwyr galwedigaethol a thechnegol yn cael yr un cyfleoedd i gyflawni eu potensial. Mae ColegauCymru wedi ymrwymo i gynnal deialog cynnar gyda’r Bwrdd Adolygu a rhanddeiliaid eraill i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i ddysgwyr, cyflogwyr ac economi Cymru.
Gwybodaeth Bellach
Cyhoeddiad Llywodraeth Cymru
Enwi Sharron Lusher yn Gadeirydd y Bwrdd Adolygu Cymwysterau Galwedigaethol
23 Mehefin 2022