Mae ColegauCymru wedi nodi gyda rhwystredigaeth gyhoeddiad Llywodraeth Cymru i ymestyn yr Adolygiad o Deithio Dysgwyr ôl-16.
Bellach yn anelu at gwblhau'r adolygiad ym mis Mawrth 2021, gydag ymgynghoriad wedi'i gynllunio ar ganllawiau teithio dysgwyr wedi'i ohirio nes bod canfyddiadau’r Adolygiad wedi'u cadarnhau, gallai hyn ychwanegu 12 mis arall o ansicrwydd i ddysgwyr ôl-16, yn enwedig y rhai mewn cyd-destun addysg bellach. Mae cwmpas cyfredol yr Adolygiad yn edrych yn benodol ar y grŵp oedran 16-19 oed. Bydd hyn nawr yn cael ei ehangu i gynnwys dysgwyr 4-16 oed. Mae ychwanegu’r oedran ysgol statudol i'r Adolygiad yw gwanhau'r ffocws ar y sector addysg bellach.
Dywedodd y Prif Weithredwr Iestyn Davies,
“Credwn yn gryf fod y diffyg cydraddoldeb yn y ddarpariaeth yn gyfystyr gogwydd strwythurol yn erbyn y sector addysg bellach. Mae hyn yn cuddio rhagfarn sefydliadol lle mae anghenion addysgol dysgwyr galwedigaethol 16-19 oed yn benodol yn dal i gael eu hanwybyddu.”
Mae Cymru eisoes ar ei hôl hi o Loegr lle mae darpariaeth orfodol i ddysgwyr rhwng 16-18 oed gymryd rhan mewn addysg amser llawn, prentisiaeth neu hyfforddiaeth. Mae'r diffyg darpariaeth debyg yng Nghymru yn cael ei chwyddo gan gyhoeddiad Gorffennaf Llywodraeth Cymru o ffigurau sy'n dangos cynnydd yn nifer y dysgwyr NEET (nid mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) ers 2017.
Teimlwn yn gryf fod yr agwedd ddewisol tuag at drefniadau teithio dysgwyr ôl-16 gan Lywodraeth Cymru yn broblem sylweddol ac rydym yn pryderu nad yw dysgwyr prentisiaeth yn cael eu hystyried o gwbl. Yn 2018-19, roedd 14,670 o ddysgwyr wedi cofrestru mewn rhaglen ddysgu seiliedig ar waith heb unrhyw gymorth teithio gwarantedig na darpariaeth lwfans i'w galluogi i gyrraedd y gweithle.
Mae ColegauCymru nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio ag oedi. Rhaid iddynt roi'r un cyfleoedd addysgol a chefnogaeth i ddysgwyr coleg ag y mae gan eu cymheiriaid ysgol hawl i'w cael.
Daeth Iestyn Davies i’r casgliad,
“Yn gyffredinol a byth yn fwy felly nag yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi parhau i weld diffyg tegwch i ddysgwyr ôl-16 yng Nghymru. Mae dysgwyr i gyd yn haeddu'r un cyfleoedd a chefnogaeth addysgol, waeth beth yw'r llwybr addysg neu hyfforddiant maen nhw'n dewis ei ddilyn."
Gwybodaeth Bellach
Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET): Ebrill 2019 i Mawrth 2020 31 Gorffennaf 2020
Datganiad Ysgrifenedig: Estyniad i’r Adolygiad o Deithio gan Ddysgwyr ôl-16 10 Awst 2020
Datganiad Ysgrifenedig: Adolygiad o Deithio gan Ddysgwyr ôl-16 13 Tachwedd 2019