Cyn diweddariad Llywodraeth Cymru heddiw i Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, mae ColegauCymru yn nodi ymrwymiad y Sector Addysg Bellach i helpu i gyrraedd y targed uchelgeisiol o Gymru wrth-hiliol erbyn 2030; a'r gwaith sylweddol sy'n digwydd ar draws ein colegau i helpu i gyflawni hyn.
Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud ar draws ein colegau yn cynnwys datblygu cynlluniau pwrpasol i sicrhau:
-
diwylliannau ac arferion gwrth-hiliol wedi'u gwreiddio mewn colegau, cwricwlwm addysg bellach modern sy'n adlewyrchu Cymru wrth-hiliol;
-
amgylchedd diogel, cynhwysol ar gyfer staff a dysgwyr lle eir i'r afael ag aflonyddu a gwahaniaethu hiliol;
-
profiadau byw dysgwyr o leiafrifoedd ethnig a staff yn y sectorau addysg bellach, prentisiaethau ac addysg oedolion;
-
sylfaen dystiolaeth a dealltwriaeth o broffiliau ethnigrwydd yn y sector addysg bellach;
-
bod colegau'n gynrychioliadol o'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu; a
-
bod y ddarpariaeth Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yn llwyr gefnogi anghenion cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.
Mae gan bob coleg addysg bellach yng Nghymru gynlluniau gwrth-hiliaeth a chydraddoldeb ar waith, wedi'u hategu gan strwythurau, timau ac arweinwyr cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant priodol. Un o swyddogaethau'r cynlluniau a'r timau hyn yw sicrhau bod cynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth y coleg yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol, a bod cynnydd yn cael ei asesu. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae colegau wedi cael eu cefnogi yn y broses hon trwy gysylltiad ag amrywiol sefydliadau allanol, gan gynnwys Black Leadership Group.
Mae gweithgarwch dysgu proffesiynol mewn colegau wedi cynnwys ymgysylltu ag Amrywiaeth a Dysgu Proffesiynol Gwrth-hiliol (DARPL), Black Leadership Group, Race Council Cymru, ac EYST. Mae staff coleg wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o raglenni hyfforddi ac arwain a gefnogir gan Lywodraeth Cymru; a byddem yn annog y gefnogaeth hon i barhau. Hoffai staff y sector addysg bellach bwysleisio pa mor werthfawr fu’r cyllid hwn, gan alluogi cysylltiadau i gael eu creu ag ymarferwyr ac arweinwyr o bob cyfnod addysg. O ystyried y momentwm y mae hyn wedi’i greu, byddem yn ddiolchgar am ragor o gymorth i alluogi’r ymgysylltu hwn i barhau.
Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu Metaverse Gwrth-hiliol ar gyfer y sector - profiad dysgu trochi, gan ddarparu cyfleoedd i ddysgu am y diwylliannau a’r traddodiadau sy’n rhan o’n hunaniaeth gyffredin. Eleni, mae colegau ledled Cymru yn gweithio i wreiddio’r adnodd hwn yn ogystal ag ymgymryd â hyfforddiant pedagogaidd gwrth-hiliaeth.
Ar sail sector cyfan, mae Grŵp Strategol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ColegauCymru yn ystyried materion sy’n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth yn y sector addysg bellach ac yn adrodd i Fforwm y Penaethiaid ar gamau i sicrhau cynnydd. Ym mis Tachwedd 2023, rhoddodd Pennaeth Cynorthwyol Coleg Caerdydd a’r Fro, Yusuf Ibrahim, dystiolaeth ar ran y sector addysg bellach i Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd, gan roi manylion am sut mae colegau ledled Cymru yn mynd ati’n rhagweithiol i ymdrin â gwrth-hiliaeth. Roedd y dystiolaeth yn manylu ar y cydweithio ar draws colegau o weledigaeth a rennir i ddileu hiliaeth mewn AB ac i hybu diddordebau ac amrywiaeth dysgwyr, cydweithwyr ac arweinwyr. Yn ei dystiolaeth, amlygwyd fod colegau’n ymwybodol o faint yr her, ond bod ymrwymiad gwirioneddol ac ystyrlon i newid ac i greu amgylcheddau sy’n gynhwysol ac yn ymatebol i anghenion pob dysgwr.
Mae colegau wedi ymrwymo i adeiladu Cymru wrth-hiliol, ac yn gwybod bod mwy i'w wneud. O ganlyniad i’r gwaith hyd yma, mae colegau’n adrodd am fwy o ymwybyddiaeth o wrth-hiliaeth o fewn y sector, mwy o hyder i ddysgwyr a staff siarad am brofiadau bywyd o hiliaeth, a chynnydd mewn digwyddiadau coleg sy’n ceisio gwella gwrth-hiliaeth yn benodol.
Datblygiad pellach i gyflawni sector addysg bellach Gwrth-hiliol erbyn 2030
Mae ein colegau bellach yn edrych i wreiddio egwyddorion gwrth-hiliaeth yn llawn a'r camau gweithredu a nodir yn eu cynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth leol i gyflawni newid diwylliannol ystyrlon. Gwneir hyn drwy ganolbwyntio'n barhaus ar arweinyddiaeth a gweithredu.
Bydd y sector addysg bellach hefyd yn parhau i weithio mewn modd croestoriadol, i sicrhau bod cydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth yn parhau i fod wrth wraidd ymdrechion y coleg.
Bydd angen cymorth penodol parhaus i golegau addysg bellach i alluogi’r sector i ymateb i heriau sy’n dod i’r amlwg yn y maes hwn.
Enghreifftiau o'r gwaith gwrth-hiliaeth uchod yn cael ei roi ar waith
Mae yna ehangder o waith ar y gweill mewn colegau ar wrth-hiliaeth, a dim ond er mwyn cynnig ‘blas’ i’r gwaith y mae’r enghreifftiau canlynol. Gellir darparu rhagor o fanylion.
-
Mae Addysg Oedolion Cymru (ALW) yn cyfrannu at addysgu nifer o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig. Gall ALW ddylunio a gweithredu rhaglenni dysgu wedi'u teilwra sy'n cyd-fynd ag anghenion a dyheadau'r sylfaen amrywiol o ddysgwyr. Mae'r sefydliad yn cydnabod nad yw un maint yn addas i bawb ac yn teilwra ei gynigion i weddu i ofynion dysgwyr, p'un a ydynt yn chwilio am sgiliau hanfodol, hyfedredd iaith, neu hyfforddiant galwedigaethol.
-
Mae Coleg Penybont wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Cwmni Amrywiol yng Ngwobrau Amrywiaeth Cenedlaethol 2024 ac wedi’i osod ar Restr 50 Cyflogwr Cynhwysol Gorau’r DU 2024. Mae hyfforddiant pwrpasol trwy sefydliad o'r enw Leaders Unlocked yn cael ei ddarparu gyda rheolwyr ar iaith a thuedd. Cafwyd mewnbwn ar draws y Coleg hefyd drwy'r Comisiwn Myfyrwyr ar Gyfiawnder Hiliol (rhan o Leaders Unlocked).
-
Cydnabuwyd modiwlau cwricwlwm Gwrth-hiliaeth Coleg Caerdydd a'r Fro ar gyfer y sector addysg bellach gan Wobrau Beacon AoC. Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn arwain datblygiad Metaverse Gwrth-hiliaeth ar gyfer y sector - profiad dysgu trochi, gan ddarparu cyfleoedd i ddysgu am y diwylliannau a’r traddodiadau sy’n rhan o’n hunaniaeth gyffredin. Mae’r gwaith hwn wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru.
-
Mae Coleg Cambria wedi sefydlu gweithgor i wella cymorth i ddysgwyr ESOL, ac mae’r holl Diwtoriaid ESOL wedi’u hyfforddi mewn Arferion wedi’u Hysbysu gan Drawma penodol ar gyfer Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches. Mae’r Coleg hefyd wedi datblygu ‘Cydweithfeydd Diwylliannol’ i rannu profiadau ar Ffydd, Diwylliant ac Amrywiaeth. Mynychodd 350 o fyfyrwyr a staff.
-
Coleg y Cymoedd Mae'r holl reolwyr cyflogi yn ymgymryd â hyfforddiant tuedd anymwybodol, ac mae aelod o'r Tîm Pobl a Diwylliant yn eistedd ar bob panel cyfweld i herio ymddygiad digroeso. Ymgymerir â modiwlau e-ddysgu EDI fel rhan o hyfforddiant cydymffurfio gorfodol, a bydd diwrnod HMS eleni yn cynnwys gweithdy dwy awr ar hyfforddiant gwrth-hiliaeth a gweithdy penodol ar Islamoffobia.
-
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cymryd rhan yn Neges Heddwch ac Ewyllys Da’r Urdd sy’n canolbwyntio ar wrth-hiliaeth, ac wedi cynnal diwrnod “dangos y cerdyn coch i hiliaeth” lle’r oedd staff a myfyrwyr yn gwisgo coch. Enillodd Walid Musa Albuqai, dysgwr ESOL sy’n astudio yn y coleg, y Wobr Gorffennol Gwahanol: Rhannu Dyfodol yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2023.
-
Mae Coleg Gwent wedi gweithio gyda Chyngor Hil Cymru, Black Leadership Group, DARPL ac Ymgynghoriaeth Hyfforddi a Rheoli No Boundaries i gyflwyno hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) gwrth-hiliaeth i 1,400 o staff Coleg Gwent. Mae'r coleg hefyd yn cynnwys modiwlau Cwricwlwm Gwrth-hiliol yn eu tiwtorialau ac ar fewnrwyd y staff.
-
Mae Grŵp Llandrillo Menai yn gweithredu cyfleuster 'Siarad' newydd lle gall staff a dysgwyr roi gwybod yn gyfrinachol ac yn ar wahân i unrhyw fath o wahaniaethu. Mae'r Coleg hefyd yn cynnal hyfforddiant gwrth-hiliaeth i aelodau staff gan gynnwys staff academaidd a staff cymorth, cydweithwyr AD a rheolwyr/arweinwyr. At hynny, maent hefyd wedi creu pecyn tiwtorial i gynorthwyo staff i gyflwyno gweithgareddau gwrth-hiliaeth yn ystod sesiynau tiwtorial grŵp. Mae Cwricwlwm Gwrth-hiliol hefyd wedi'i ymgorffori yn eu prosesau sicrhau ansawdd.
-
Mae diwrnodau DPP Coleg Sir Benfro yn canolbwyntio ar ystod o hyfforddiant gwrth-hiliaeth. Mae ymchwil gweithredu wedi'i gynnal gyda staff y coleg ar eu profiadau o hiliaeth ac mae'r canlyniadau wedi llywio'r rhaglen hyfforddi ar gyfer staff. Mae gan y Coleg chwe Hyfforddwr DPP penodedig i gefnogi staff. Mae cyflwyno'r gwaith gwrth-hiliaeth a wneir gan Goleg Sir Benfro wedi'i ymestyn i bartneriaid darparwyr preifat.
Credwn fod gan bob dysgwr yr hawl i addysg o safon fyd-eang, a ddarperir mewn lleoliad diogel, amrywiol a chynhwysol ac o fewn sector sy'n cefnogi'r gymuned ehangach, cyflogwyr a'r economi.
Gwybodaeth Bellach
Mae ein colegau addysg bellach yn gwneud llawer iawn o waith yn y maes hwn. Cysylltwch â mi os hoffech enghreifftiau manylach o’r gwaith y mae colegau yn eich etholaeth neu ranbarth yn ei wneud ar wrth-hiliaeth, amrywiaeth, a chynhwysiant.
Clare Williams, Swyddog Polisi
Clare.Williams@ColegauCymru.ac.uk