Heddiw mae colegau addysg bellach ledled Cymru yn addo eu hymrwymiad i sicrhau y gall pob ymadawr ysgol symud ymlaen yn eu dysgu ym mis Medi. Maent yn eu hannog i ymweld â'u coleg lleol i dderbyn cyngor, arweiniad a chefnogaeth ar gyfer cam nesaf eu dysgu.
Yn dilyn wythnos anodd ar gyfer myfyrwyr UG a Safon Uwch, gyda nifer yn derbyn graddau is na'r hyn yr oeddent wedi'i ddisgwyl, mae sefydliadau addysg bellach wedi dod ynghyd i gynnig eu cefnogaeth i fyfyrwyr cyn Diwrnod Canlyniadau TGAU.
Dywedodd Cadeirydd ColegauCymru a Phrif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai Dafydd Evans,
“Rydym yn awyddus i dawelu meddwl dysgwyr sy’n derbyn eu canlyniadau TGAU’r wythnos hon bod ganddyn nhw’r dewis o le yn y coleg. Rydym yn ymrwymo i ystyried safbwynt proffesiynol ac argymhellion athrawon ysgik wrth i ni gefnogi ac arwain y rhai nad ydynt efallai'n derbyn y canlyniadau yr oeddent wedi gobeithio amdanynt."
Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y bydd colegau yn hyblyg ac yn deg yn eu proses dderbyn, gan gynnig prosesau cofrestru ac asesu cychwynnol gwell i sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu rhoi ar y cwrs mwyaf addas, ac un sy'n ystyried eu dewisiadau cyn belled ag y bo modd.
Gyda chynnig eang, mae colegau addysg bellach mewn sefyllfa ddelfrydol i allu diwallu ystod eang o anghenion dysgwyr. Bydd colegau yn defnyddio'r holl wybodaeth y mae pobl ifanc yn dod gyda nhw am eu dysgu blaenorol i helpu i lywio ein gweithdrefnau derbyn. Waeth bynnag y canlyniadau TGAU, bydd colegau addysg bellach yn rhoi'r lefel briodol o gefnogaeth i bob dysgwr i'w cynorthwyo i astudio ar gyfer cymwysterau academaidd neu alwedigaethol.
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,
“Bydd y sector addysg bellach, fel bob amser, yn ymateb i anghenion unigolion, gan gefnogi dysgwyr a’u teuluoedd ar yr hyn a fu ac sy'n parhau i fod mewn cyfnod anhygoel o anodd ac ansicr. Wrth i ni brahau i weithio'n agos gyda CBAC, Cymwysterau Cymru a chydweithwyr y llywodraeth i ddatrys materion yr wythnos ddiwethaf, mae ein colegau wrth law ac wedi ymrwymo i roi anghenion dysgwyr ar flaen ein hymdrechion."