Mae staff ColegauCymru ynghyd â chydweithwyr o golegau addysg bellach, Llywodraeth Cymru ac Estyn wedi dychwelyd yn ddiweddar o ymweliad astudio â’r Almaen lle buont yn dysgu am strategaethau digideiddio ar gyfer hyfforddiant addysg alwedigaethol (VET) ac addysg oedolion.
Cynhaliwyd yr ymweliad hir-ddisgwyledig, a gafodd ei ohirio oherwydd cyfyngiadau’r pandemig, ym mis Gorffennaf ym Maden-Wuerttemberg (BW).
Gan ddechrau’r wythnos yn un o’r canolfannau addysg oedolion a’r sefydliadau addysg bellach cyhoeddus mwyaf yn yr Almaen, Volkshochschule Stuttgart (VHS), gwelodd y grŵp yr agwedd gadarnhaol tuag at VET oedolion. Gyda mwy na 5,000 o gynigion hyfforddiant ac addysg bellach ar gael bob blwyddyn, mae VHS yn datblygu doniau a diddordebau unigol ei ddysgwyr - waeth beth fo'u cefndir cymdeithasol neu lefel eu haddysg. Mae'r ganolfan yn ymfalchïo yn yr egwyddor o fod yn agored sy'n berthnasol i ddysgwyr, pynciau a dulliau. Er mwyn cyrraedd y nod hwn, mae cydweithrediad amrywiol a hirdymor gyda sefydliadau eraill yn hanfodol.
Fe wnaeth Andrea Bernert-Bürkle egluro system VET y ganolfan yn BW, dull penodol sy'n cyfuno manteision hyfforddi mewn cwmni ag addysg mewn ysgol alwedigaethol. Roedd cyfle hefyd i gwrdd â Phennaeth Ganolfan Ansawdd Ysgolion a Hyfforddiant Athrawon, Christiane Spies, a fu’n trafod y berthynas rhwng diwydiant ac addysg yn y rhanbarth a phwysigrwydd digidol i hyfforddiant galwedigaethol yn ystod y pandemig.
Rhoddodd yr ail ddiwrnod gyfle i'r grŵp glywed gan gyflogwr. Dilynwyd hyn gan daith rithiol o amgylch y campws, a ddatblygwyd i fynd i'r afael ag anghenion hyfforddiant ganolfan ledled y byd. Aeth y grŵp ymlaen wedyn i edrych yn agosach ar y cynnig addysg oedolion, a arweiniodd at drafodaeth fywiog ar ddefnyddioldeb llwyfan canolog i gynorthwyo â chyflwyno’r cwricwlwm yng Nghymru.
Roedd cyfle hefyd ar y trydydd diwrnod i ymweld ag ysgol VET Friedrich-Ebert-Schule. Gwelodd y grŵp gyfleusterau peirianneg a gweithgynhyrchu uwch-dechnoleg yn gymysg ag amgylcheddau dysgu traddodiadol, gan sgwrsio â dysgwyr a gweld realiti estynedig a thechnoleg deallusrwydd artiffisial fel ffordd o gyflwyno hyfforddiant, ar waith!
Meddai Prif Weithredwr a Phennaeth Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, Dr Andrew Cornish,
“Ymweliad hynod addysgiadol a barodd i mi ystyried fy sefydliad fy hun a chwestiynu a ydym yn diwallu anghenion pawb ac yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg i becynnu’r hyn rydym yn ei gynnig i’n staff.”
Ychwanegodd Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru, Sian Holleran,
“Roedd ein hymweliad â Stuttgart yn graff ac yn bleserus. Roedd yn wych i ni weld ffyrdd arloesol a gwahanol o fynd ati i gyflwyno addysg bellach ar waith, ac ystyried ffyrdd y gallwn wella’r hyn rydym yn ei gynnig yma yng Nghymru.”
“Mae’n amhrisiadwy i gydweithwyr o wahanol wledydd ddod at ei gilydd i rannu gwybodaeth. Mae meithrin partneriaethau cryf ar gyfer symudedd yn rhan hanfodol o’r broses gyfnewid.”
Gwybodaeth Bellach
Sian Holleran, Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk