Ymateb Ymgynghori
Cymwysterau Cymru
Dyddiad Cyflwyno: 14 Rhagfyr 2022
Gwnaethom nodi’r pryder ynghylch maint cymwysterau TGAU cyfunol arfaethedig, a’r effaith y bydd hyn yn ei chael ar amserlennu ac oriau cyswllt dysgwyr. Fe wnaethom hefyd dynnu sylw at gwestiynau ynghylch sut y bydd y cynigion yn effeithio ar ddatblygiad staff.
Amlygodd adborth gan ein Grŵp Cwricwlwm ac Ansawdd gwestiynau ynghylch y dysgwyr hynny sy'n astudio Prentisiaethau Iau, a fyddai creu cymhwyster TGAU mwy yn newid trywydd y rhai sydd wedi dewis yn benodol i beidio â dilyn llwybr academaidd ar gyfer eu prif gymhwyster?
Rydym wedi gofyn am ragor o fanylion am yr ystyriaeth y mae Cymwysterau Cymru wedi’i rhoi i addysg uwch a chyfleoedd cyflogaeth, a sut y bydd hygludedd y cymwysterau TGAU newydd yn cael eu sicrhau. Yn olaf, rydym yn ceisio eglurder ynghylch sut y bydd y cymwysterau TGAU newydd yn cael eu dyfarnu fel cymwysterau mwy nad ydynt yn cael gwerth credydau uwch.
Cysylltwch â Chyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru, Rachel Cable, gydag unrhyw gwestiynau.
Rachel.Cable@ColegauCymru.ac.uk