Am bron i chwarter canrif o ddatganoli, mae’r ymadrodd ‘parch cydradd’ rhwng llwybrau addysgol galwedigaethol ac academaidd wedi bod yn ddyhead Llywodraethau olynol Cymru. Dyma’r bachyn y mae’r sector addysg bellach wedi gallu dadlau yn ei gylch dros fuddsoddiad ychwanegol a sicrhau bod Gweinidogion yn cadw ffocws clir ar anghenion y grŵp hwn o ddysgwyr.
Fodd bynnag, ar adeg pan fo buddsoddi mewn addysg alwedigaethol a thechnegol yn bwysicach nag erioed ar gyfer Cymru gynaliadwy a mwy cyfartal, mae’r dirwedd polisi yn ansicr. Gyda chyllidebau’n dynn ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus a’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd yn cymryd drosodd y gwaith o reoleiddio a chyllido ar gyfer y sector ôl-16 o fis Ebrill 2024, mae angen inni gyflwyno’r achos eto dros fuddsoddiad parhaus mewn addysg alwedigaethol a thechnegol.
Bydd cyhoeddi’r Adolygiad o Gymwysterau Galwedigaethol (VQ), a ddisgwylir dros yr wythnosau nesaf, yn garreg filltir bwysig yn y ddadl honno, fel y bu’r adroddiad gan Hefin David AS ar y pontio i gyflogaeth.
Yn ein tystiolaeth i’r Adolygiad VQ, tynnodd ColegauCymru sylw at ddiffyg fframwaith polisi a strategaeth gyffredinol ar gyfer addysg alwedigaethol a thechnegol a’r potensial i golegau wneud mwy i ddarparu llwybrau technegol i gyflogwyr ar Lefelau 4 a 5.
Rhaid mynd i’r afael â’r angen am eglurder strategaeth newydd ar fyrder fel ein bod yn cytuno ac yn buddsoddi yn y blaenoriaethau cywir ar gyfer y dyfodol a rôl colegau wrth helpu i’w cyflawni. Roeddem yn dadlau o blaid cydnabyddiaeth gan yr adolygiad a chan y llywodraeth o hynodrwydd dysgu galwedigaethol, gan gynnwys asesu priodol, llwybrau dilyniant clir, a mynediad at gyngor ac arweiniad.
Nid yw parch cydradd yn ymwneud â chael amgylchedd polisi unffurf, ond yn hytrach cydnabod bod llwybrau galwedigaethol a thechnegol yn nodedig ac yr un mor werthfawr. Mae angen i benderfynwyr ddeall anghenion unigryw llwybrau galwedigaethol a thechnegol yn yr un ffordd ag y maent yn deall llwybrau academaidd.
Mewn gwirionedd, mae gwaith i'w wneud o hyd ar godi statws ac amlygrwydd addysg alwedigaethol a thechnegol. Gwyddom nad ydym ar ein pennau ein hunain yn wynebu’r her hon. Ledled y byd, mae cenhedloedd eraill yn mynd i’r afael â sut i sicrhau bod llwybrau galwedigaethol a thechnegol yn cael eu gwreiddio ledled y system addysg, ac yn benodol sut i sicrhau bod addysg bellach yn cael y buddsoddiad a’r gydnabyddiaeth sydd ei hangen arni. Llwyddodd colegau o Gymru i gwrdd â sefydliadau o’r un anian a rhannu heriau yn gynharach eleni yng Nghyngres Flynyddol Ffederasiwn Colegau a Pholytechnig y Byd yng Nghanada.
Rydym wedi dod yn bell yng Nghymru. Mae gan y sector AB berthynas gref â'r llywodraeth. Mae pwrpas a dealltwriaeth gyffredin o’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r sector. Mae ein cyhyr ar y cyd yn golygu nad ydym bellach yn wasanaeth Sinderela, ond yn hytrach yn bartner cryf ar gyfer newid sydd â llais clir a gwerthfawr o amgylch y bwrdd.
Mae’n debyg mai ein her fwyaf yw’r pontio rhwng yr ysgol ac addysg ôl-16, ac yn benodol sut i wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn cael y cyfle i ddilyn llwybr galwedigaethol o ansawdd uchel. Ar hyn o bryd, mae hwn yn wendid allweddol yn y system.
Yn rhy aml nid yw pobl ifanc yn ymwybodol o gyfleoedd llwybrau galwedigaethol ac ni allant fanteisio ar y cyfleoedd sy’n bodoli. Yr allwedd i ddatgloi potensial pob dysgwr yw’r posibilrwydd o bartneriaeth newydd rhwng ysgolion a cholegau addysg bellach. Gall creu llwybr newydd yn 14-19 ddatgloi cyfleoedd i bob dysgwr, ni waeth pa lwybr y maent am ei ddilyn.
Gallai cynigion newydd gan Cymwysterau Cymru ar gyfer cynnig cyn-alwedigaethol 14-16 fod yn gam cyntaf tuag at y math newydd hwn o bartneriaeth. Fodd bynnag, byddant yn angheuol ddiffygiol os, fel y’i cyflwynwyd yn wreiddiol, ystyrir eu bod yn cael eu darparu mewn ysgolion a chan ysgolion. Os caiff ei weithredu yn y modd hwn ni fydd yn gwneud llawer mwy na thicio’r blwch galwedigaethol, ond ni fydd yn dod yn agos at y newid ystyrlon a pharhaol sydd ei angen arnom.
Mae cydnabyddiaeth gynyddol ac eang bod angen i’r cynnig ar gyfer cyfres newydd o gymwysterau cyn-alwedigaethol gael ei gyflwyno gan ymarferwyr â chymwysterau priodol ac mewn cyfleusterau sy’n bodloni safonau’r diwydiant. Mae'n anochel, yn y mwyafrif llethol o achosion, mai dim ond os caiff ei chyflwyno mewn addysg bellach y gellir sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel.
Rydym wedi gosod tri phrawf clir ar gyfer y cynigion y credwn eu bod yn hanfodol os yw dysgwyr am gael dewis llwybr galwedigaethol o ansawdd uchel:
- Dysgwyr i gael mynediad at gyngor ac arweiniad annibynnol i'w helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol eu hunain;
- Cyrsiau i'w harwain gan ymarferwyr â chymwysterau priodol sydd â phrofiad perthnasol i'r diwydiant;
- Darpariaeth i ddigwydd mewn amgylcheddau arbenigol galwedigaethol o ansawdd uchel. Ni fydd cwrs adeiladu sy’n cael ei ddarparu mewn ystafell ddosbarth ysgol yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf ond yn hytrach bydd yn rhoi profiad rhannol, annigonol iddynt.
Dylem ysbrydoli dysgwyr am bosibiliadau helaeth addysg alwedigaethol a thechnegol. Byddai gwneud dim llai yn mynd yn brin o wir gydraddoldeb parch.
Fodd bynnag, dim ond rhan o'r ateb yw cymwysterau. Mae creu llwybrau ystyrlon i addysg alwedigaethol a thechnegol hefyd yn gofyn am ateb polisi lle gallwn greu partneriaethau priodol rhwng ysgolion a cholegau lleol. Drwy gydweithio, a chyda chyllid ychwanegol, gallwn ehangu’r dewis rhy gyfyng o lawer mewn TGAU y gwyddom nad yw’n gweithio i gynifer o’n pobl ifanc.
Gallai’r cyfleoedd hyn olygu bod mwy o ddisgyblion ysgol yn cael y cyfle i astudio llwybrau galwedigaethol yn y coleg am ran o’u hwythnos. Dylai opsiynau eraill gynnwys cyflwyno'r cynllun Prentisiaeth Iau lwyddiannus. Y dewis bolisi radical a beiddgar a allai yrru Cymru i gynghrair wahanol o ran y gydnabyddiaeth a’r gwerth a roddwn ar opsiynau galwedigaethol.
Mae adegau wrth lunio polisi pan all penderfyniadau sy’n ymddangos yn fach gael effeithiau parhaol ar fywydau pobl. Dros yr ychydig fisoedd nesaf bydd gan Weinidogion, swyddogion a rheoleiddwyr gyfres o benderfyniadau a fydd yn effeithio ar fywydau pobl ifanc ledled Cymru. Rhaid iddynt gofio ac anrhydeddu'r ymrwymiad cyfunol a hir sefydlog i barch cydradd ar gyfer addysg alwedigaethol a thechnegol.
Gwybodaeth Bellach
Adroddiad i Lywodraeth Cymru
Adroddiad yn darparu argymhellion i wella profiadau dysgwyr wrth bontio i fyd gwaith
Dr Hefin Davies MS, Mehefin 2023
Lucy Hopkins, Rheolwr Cyfathrebu
Lucy.Hopkins@ColegauCymru.ac.uk