Heddiw mae ColegauCymru wedi cyhoeddi adroddiad ymchwil annibynnol sy'n rhoi rhai safbwyntiau syfrdanol ar ddyfodol addysg bellach yng Nghymru.
Yn 2019 comisiynodd ColegauCymru dîm annibynnol o ymchwilwyr o fri rhyngwladol ar draws ystod o feysydd i archwilio’r rôl y gallai addysg bellach ei chwarae yn nyfodol datblygiad cymdeithasol ac economaidd Cymru. Mae'r adroddiad canlyniadol Galluogi Adnewyddu: Addysg Bellach a Datblygu Dinasyddiaeth, Galwedigaethau a Chymunedau Busnes Gwell yng Nghymru, sydd wedi’i addasu i fynd i'r afael â phandemig parhaus Covid19, yn dwyn rhai canfyddiadau heriol i'r amlwg.
Mae'r Adroddiad yn ymdrin â themâu gwell dinasyddiaeth, galwedigaethau a chymunedau busnes. Mae'r camau a awgrymir yn seiliedig ar sut y gallai addysg bellach ddefnyddio ei arbenigedd addysgol a sefydliadol i gynorthwyo i ddiwygio'r galw am lafur. Mae angen penodol am rôl fwy gweithredol wrth adeiladu galwedigaethau newydd ac i fod yn chwaraewr gweithredol wrth ddod â'r holl chwaraewyr perthnasol at ei gilydd i helpu i adfywio a chryfhau cymunedau busnes lleol.
Dywedodd cyd-awdur yr adroddiad, yr Athro John Buchanan o Brifysgol Sydney,
“Mae yna lawer i ymfalchïo ynddo yn system Addysg Bellach Cymru. O ran y byd Saesneg ei iaith, mae addysg bellach yng Nghymru mewn siâp da. Yn yr un modd, mae yna rai busnesau bach cymdeithasol ymwybodol a chraff yn fasnachol. Ond mae angen i ni gydnabod bod y busnesau bach a chanolig ‘golau disglair’ hyn yn ynysoedd rhagoriaeth mewn môr o gyffredinedd. Tra ein bod ni wedi arfer clywed mai busnes yw'r ateb, mae'n bryd i ni gydnabod bod busnes yn rhan o'r broblem mewn gwirionedd.”
Ychwanegodd y cyd-awdur arall, yr Athro Karel Williams o Brifysgol Manceinion,
“Cymru yw prifddinas bwriadau da’r byd, ond mae angen i ni symud y tu hwnt i eiriau cynnes i weithredu. Mae argyfwng Covid19 yn cyflymu newidiadau economaidd a chymdeithasol yng Nghymru sydd wedi bod yn datblygu ers dad-ddiwydiannu'r 1980au. Codir addysg a sgiliau yn barhaus fel atebion i'r problemau sy'n ein hwynebu. Ond er nad oes datrysiad heb sgiliau, nid sgiliau yn unig yw'r ateb. Yn y pen draw, bydd mwy o'r un polisi ar addysg a sgiliau yn rhoi'r gweithlu di-waith cymwysedig gorau i Gymru erioed ei gael i ni”.
Ychwanegodd Cadeirydd ColegauCymru, Guy Lacey ymhellach,
“Er bod rhywfaint o’r adroddiad yn creu darllen heriol, mae yna lawer o le i fod yn optimistaidd. Gyda'r weledigaeth, y gefnogaeth a'r cyllid priodol, gall y sector addysg bellach yng Nghymru fod yn offeryn hyd yn oed yn fwy gwerthfawr i ailadeiladu ein heconomi wrth helpu cymunedau i ffynnu ac unigolion i lwyddo”.
Gwybodaeth Bellach
Galluogi Adnewyddu: Addysg Bellach a Datblygu Dinasyddiaeth, Galwedigaethau a Chymunedau Busnes Gwell yng Nghymru
10 Chwefror 2021