Cefndir
Mae ColegauCymru yn elusen addysg sy’n hyrwyddo budd cyhoeddus addysg bellach (ab) yng Nghymru. Credwn fod gan bob dysgwr yr hawl i addysg o’r radd flaenaf, a ddarperir mewn lleoliad diogel, amrywiol a chynhwysol ac o fewn sector sy’n cefnogi’r gymuned ehangach, cyflogwyr a’r economi. Rydym hefyd yn cynnull y Fforwm Prifathrawon Addysg Bellach, sy’n cynrychioli buddiannau darparwyr addysg bellach.
Rydym yn ymgymryd ag ymchwil a datblygu polisi ac yn darparu cymorth ymarferol i'r gymuned AB. Gan weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, ei hasiantaethau, a rhanddeiliaid eraill, rydym yn helpu i lunio polisïau sy’n effeithio ar y sector AB, eu dysgwyr a’u staff. ColegauCymru yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer addysg bellach yng Nghymru.
Mae Fforwm Services Limited yn gwmni cyfyngedig preifat ac yn is-gwmni sy’n eiddo llwyr i Golegau Cymru / Colegau Cymru Cyfyngedig. Mae’n blatfform ar gyfer sianelu gweithgarwch masnachol sy’n cynhyrchu incwm, ac sy’n ein galluogi i hwyluso digwyddiadau, hyfforddiant a chynadleddau sector-benodol.
Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano
Mae’n hollbwysig bod gan ColegauCymru ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ragorol o faterion gwleidyddol, datblygiadau a thrafodaethau sy’n digwydd yng Nghymru ar faterion sy’n ymwneud â phryderon ColegauCymru.
Mae ColegauCymru yn ceisio contract blynyddol ar gyfer gwasanaethau monitro gwleidyddol, i gynnwys briffio rheolaidd ar:
- Busnes y Senedd, gan gynnwys detholiadau o'r Cyfarfod Llawn a gwaith monitro byw o ddadleuon a chwestiynau perthnasol
- Ymgynghoriadau ac ymchwiliadau'r Senedd
- Busnes pwyllgor perthnasol y Senedd gan gynnwys nodiadau manwl ar unrhyw bwyntiau berthnasol
- Busnes perthnasol Grwpiau Trawsbleidiol y Senedd
- Crynodeb, ymdriniaeth, a thrawsgrifiadau llawn o gamau Bil, ac ystyriaeth y pwyllgorau
- Deisebau perthnasol a gyflwynwyd ym mhroses Pwyllgor Deisebau’r Senedd
- Cwestiynau llafar ac ysgrifenedig pan gânt eu cyflwyno a phan gânt eu hateb
- Adroddiadau Llywodraeth Cymru
- Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru
- Datganiadau i'r wasg gan Lywodraeth Cymru
- Datganiadau ystadegol Llywodraeth Cymru
- Sganio'r gorwel sy'n edrych ymlaen
- Enwau yn crybwyll dadansoddiad
- Sesiynau perthnasol y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, a datblygiadau yn Swyddfa Cymru
- Datganiadau i'r wasg neu gyhoeddiadau perthnasol gan bleidiau gwleidyddol
- Rhestrau cyswllt cyfredol ar gyfer Aelodau a staff ymchwil
Ar adegau, gall hyn hefyd gynnwys (yn ôl yr angen):
- Cefnogaeth digwyddiadau
- Cefnogaeth i gynadleddau pleidiau gwleidyddol
- Archwiliad o ganfyddiadau gwleidyddol
- Sganio'r gorwel
Cyhoeddir y contract yn flynyddol, a bydd adnewyddu yn amodol ar wasanaeth boddhaol.
Gofynion
Gwahoddir pawb sydd â diddordeb i gyflwyno tendr i rachel.cable@colegaucymru.ac.uk erbyn 16 Awst 2023.
Yr amserlen ddangosol yw:
- Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tendrau 16 Awst 2023
- Hysbysiad o ganlyniad 4 Medi 2023
- Dyddiad cychwyn y contract 1 Hydref 2023
Disgwylir i gyflenwyr, fel rhan o'u cais, ddatgan unrhyw berthynas neu gysylltiad ag unigolyn neu bersonau sy'n gyflogai arwyddocaol, wedi'u hethol neu eu henwebu, yn y sefydliadau sy'n dod o fewn cwmpas y gwaith hwn.