Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, mae ColegauCymru ar fin ymgymryd â phrosiect newydd a fydd yn cefnogi colegau i werthuso’r broses o gyflwyno dosbarthiadau meistr a phrosiectau ymchwil i gyflymu ac adeiladu arbenigedd staff a chynyddu gwybodaeth a phrofiad dysgu dysgwyr.
Mae’r Cynllun Trosglwyddo Gwybodaeth yn gysyniad newydd gyda’r nod o ddod ag arbenigedd y diwydiant ynghyd i gyflwyno cynnwys a chysyniadau newydd mewn pynciau fel digidol, sgiliau gwyrdd, adeiladu ôl-osod a pheirianneg. Gall hyn yn ei dro arwain at ddatblygu rhaglenni dysgu newydd a phrofiad gwell i ddysgwyr.
Dywedodd Cynghorydd Strategol Dysgu Seiliedig ar Waith a Chyflogadwyedd ColegauCymru, Jeff Protheroe,
“Yn fenter Cymru gyfan, bydd y Cynllun yn gweld arbenigedd yn cael ei rannu ymhlith rhwydwaith y colegau gyda ColegauCymru yn arwain ar werthuso ei effaith tra’n rhannu gwersi gwerthfawr gyda rhanddeiliaid allweddol.”
Rhagwelir y bydd unrhyw ddosbarth meistr, prosiect ymchwil neu unrhyw fformat dysgu arall yr ymgymerir ag ef yn arwain at ddatblygu llwybrau a rhaglenni newydd ar lefel uwch.
Bydd ColegauCymru yn arwain y gwaith o gydlynu prosiectau unigol gan sicrhau aliniad rhwng anghenion cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth am hyn neu unrhyw weithgareddau dysgu seiliedig ar waith eraill, cysylltwch â Jeff Protheroe.
Jeff Protheroe
Cynghorydd Strategol Dysgu Seiliedig ar Waith a Chyflogadwyedd ColegauCymru
jeff.protheroe@colegaucymru.ac.uk