Ymatebodd ColegauCymru i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru am adolygiad i'r Mesur Teithio Dysgwyr ôl 16 yn annog Gweinidogion i sicrhau bod gan bob person ifanc fynediad at addysg a hyfforddiant sgiliau.
Yn gynharach yr wythnos hon, wrth ymateb i faterion a nodwyd gan y Comisiynydd Plant, y Comisiynydd Cymraeg, a’r Aelodau'r Cynulliad, cytunodd Llywodraeth Cymru i adolygu teithio dysgwyr ôl-16. Yn ystod y misoedd diwethaf, cododd ColegauCymru’r mater hwn gan nodi’r effaith ar ddysgwyr yn ystod ei gyfarfod rheolaidd ag ACau. Mae ColegauCymru yn croesawu'r adolygiad.
Dywedodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru,
“Mae ColegauCymru yn gwerthfawrogi'r heriau ariannol sy'n wynebu llawer o awdurdodau lleol, ond mae'n hanfodol bod dysgwyr ôl-16 yn cael eu cefnogi i gael mynediad at addysg a hyfforddiant. Mae angen i ni fuddsoddi yn ein dysgwyr ac mae angen mynd i’r afael â’r gwasgedd ar drefniadau teithio dewisol.
“Rydym yn edrych ymlaen at gyfrannu i adolygiad Llywodraeth Cymru a helpu i sicrhau nad yw dysgwyr y dyfodol, yn enwedig o ardaloedd difreintiedig, yn cael eu hatal rhag cyflawni eu potensial oherwydd costau teithio. Yn aml, mae'r costau hyn yn disgyn ar golegau AB wrth iddynt gymryd camau i gefnogi mynediad at ddysgu.
“Dim ond trwy ddefnyddio dull traws-Lywodraethol a thrwy ymgysylltu â cholegau AB lle mae mwyafrif y bobl ifanc bellach yn derbyn eu cyfleoedd dysgu, y gellir cyflawni her teithio dysgwyr i'r sector ôl-16. Mae hyn yn cynnwys cefnogi prentisiaid yn eu hanghenion penodol a hyfforddiant.”