Dysgu o'r Alban ar gydnabod dysgu blaenorol

pexels-mentatdgt-1569076.jpg

Yn dilyn prosiect Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) ColegauCymru eleni, bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu ein hargymhellion gyda Medr yn yr wythnosau nesaf. Mae ColegauCymru wedi cyfrannu at Bapur Briffio manwl, sy’n cynnwys argymhellion ar gyfer set o egwyddorion lefel uchel ar gyfer RPL, sy’n cael ei anfon oddi wrth Grŵp Cynghori Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru Llywodraeth Cymru (CQFW) i Medr. Yma, mae Cadeirydd Grŵp Strategol Cwricwlwm ac Ansawdd ColegauCymru, Yana Williams, yn myfyrio ar RPL a’i rôl ar gyfer colegau yng Nghymru. 

Mae RPL yn ddull trawsnewidiol sy'n cydnabod gwerth dysgu y tu allan i leoliadau addysgol ffurfiol. Yng Nghymru, mae RPL yn mynd yn ei flaen i ddilysu dysgu anffurfiol a ffurfiol, a thrwy hynny hyrwyddo dysgu gydol oes a darparu llwybrau amgen i gymwysterau a chyflogaeth. 

Mae RPL yn broses sy'n galluogi unigolion i ennill cydnabyddiaeth a chredydau am y sgiliau a'r wybodaeth sydd ganddynt eisoes. Gall hyn fod yn arbennig o fuddiol i'r rhai sydd wedi cael cryn dipyn o ddysgu trwy brofiad gwaith, gwirfoddoli neu astudio'n annibynnol. Mae Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC) yn cefnogi RPL trwy ddarparu iaith gyffredin i ni ddisgrifio a diffinio canlyniadau dysgu. 

Heriau’n wynebu RPL yng Nghymru 

Er gwaethaf ei fanteision, mae RPL yn cael ei danddefnyddio yng Nghymru. Mae’r heriau’n cynnwys: 

  • diffyg ymwybyddiaeth o'i fanteision; 
  • cymhlethdod y broses; a’r 
  • angen am fecanweithiau cadarn sicrhau ansawdd. 

Ymweliad Astudio â'r Alban 

Eleni, ymwelodd dirprwyaeth o Gymru â’r Alban i ymchwilio i weithrediad ac ymarfer prosesau RPL a fabwysiadwyd gan Scottish Credit and Qualifications Framework (SCQF). Roedd yr ymweliad astudio, dan arweiniad ColegauCymru, yn cynnwys amrywiaeth o gyfranogwyr a oedd yn ymwneud ag RPL yng Nghymru gan gynnwys Coleg Caerdydd a’r Fro, Prifysgolion Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Addysg Oedolion Cymru, Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru, a Gyrfa Cymru. 

Cynhaliwyd yr ymweliad gan SCQF yn eu pencadlys ynn Nglasgow, a'i nod oedd cael cipolwg ar RPL yn yr Alban a rôl SCQF; deall yr offer a'r gweithgareddau a ddatblygwyd gan SCQF ar gyfer grwpiau allweddol fel y rhai sy'n gadael y Lluoedd Arfog, ymfudwyr gorfodol, prentisiaid a sefydliadau. 

Ers 2020, mae ColegauCymru wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i archwilio sut y gallai RPL helpu i integreiddio ymfudwyr sy’n ceisio ymgymryd mewn gwaith neu addysg. Mae hyn yn cyd-fynd ag amcanion polisi Llywodraeth Cymru, er enghraifft, a nodir yn y Cenedl Noddfa - Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches a Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, sy'n cyfeirio'n benodol at RPL fel offeryn i gydnabod sgiliau a chymwysterau blaenorol. Gan ymgysylltu â SCQF, dysgodd ColegauCymru am dystysgrif Skills Recognition Scotland, sy’n meincnodi sgiliau a phrofiad yn erbyn y SCQF, a ddatblygwyd yn wreiddiol ar gyfer ymfudwyr gorfodol ond a ystyriwyd hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer grwpiau eraill. 

Mae buddsoddiad yr Alban mewn RPL a’i hymrwymiad iddo yn drawiadol, ac roedd yn amlwg bod RPL yn cael ei gydnabod fel offeryn defnyddiol nid yn unig gan y sector addysg, ond hefyd gan amrywiaeth o randdeiliaid, megis y Weinyddiaeth Amddiffyn, GIG yr Alban, a chyflogwyr ehangach. Cytunodd y dirpwyaeth fod angen mwy o godi ymwybyddiaeth yng Nghymru, gan nad yw cynhyrchu offer ac adnoddau o reidrwydd yn golygu y cânt eu defnyddio. 

Amlygodd yr ymweliad â’r Alban y potensial i RPL fod yn arf trawsnewidiol yng Nghymru, gan gefnogi dysgu gydol oes a chydnabod sgiliau a phrofiad. Dychwelodd y ddirprwyaeth i Gymru gydag ymrwymiad o'r newydd i symud yr agenda RPL yn ei blaen yng Nghymru, wedi'u hysbrydoli gan yr arferion a welwyd yn yr Alban. 

Camau Nesaf 

Mae set o egwyddorion lefel uchel ar gyfer RPL yng Nghymru wedi’u datblygu ac yn cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru i Medr, i’w hystyried er mwyn eu cefnogi o ran sut i ymgorffori cydnabod dysgu blaenorol er mwyn hwyluso symudiad dysgwyr ar draws y sector trydyddol. 

Mae Cymru yn falch o fod yn genedl o ail gyfle: lle nad yw byth yn rhy hwyr i ddysgu. Gyda system RPL effeithiol ar waith yng Nghymru, gyda’n gilydd gallwn sicrhau llwybr at ddysgu gydol oes i bawb, a fydd yn ei dro yn helpu i gefnogi nod Llywodraeth Cymru o Gymru gryfach, decach a gwyrddach, i bawb. 

Gwybodaeth Bellach 

Ewch i dudalennau Cydnabod Dysgu Blaenorol a Chydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol gydag ymfudwyr gorfodol ac eraill ColegauCymru am ragor o wybodaeth. 

Scottish Credit and Qualifications Framework 
Hwb Cydnabod Dysgu Blaenorol 

Polisi a Strategaeth Llywodraeth Cymru 
Blaenoriaethau Strategol Medr 
28 Chwefror 2024 

Phil Whitney ac Adrian Sheehan yw prif gysylltiadau ColegauCymru ar gyfer Cydnabod Dysgu Blaenorol mewn colegau Addysg Bellach yng Nghymru. 

Phil.Whitney@ColegauCymru.ac.uk  
Adrian.Sheehan@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.