Pencampwr addysg bellach, John Griffiths AS, wedi cyhoeddi na fydd yn sefyll eto yn etholiad y Senedd yn 2026.

Senedd Website Banner.png

Mae John Griffiths AS wedi cyhoeddi na fydd yn ceisio cael ei ailethol yn etholiad y Senedd yn 2026. 

Yn dilyn y cyhoeddiad hwn, ac wrth i #WythnosColegau2025 ddirwyn i ben, mae hon yn foment addas i ColegauCymru gydnabod a diolch Aelod Senedd Ddwyrain Casnewydd am ei wasanaethau i addysg yn y Senedd a Llywodraeth Cymru. 

Gosododd John y sylfaen ar gyfer ei ymroddiad gydol oes i’r sector addysg ar ddechrau ei yrfa a chyn mynd i fyd wleidyddiaeth - fel darlithydd mewn addysg bellach ac addysg uwch. Yn dilyn cyfnod fel cyfreithiwr, etholwyd John i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (y Senedd bellach) am y tro cyntaf ym 1999 ac mae wedi cynrychioli etholwyr ardal Ddwyrain Casnewydd ers 26 mlynedd. Mae’n un o ddim ond pedwar aelod presennol o’r Senedd sydd wedi gwasanaethu’n barhaus ers cael eu hethol gyntaf yn 1999. 

Mae ColegauCymru yn falch iawn o fod wedi gweithio gyda John a’i dîm dros nifer o flynyddoedd, gan helpu i adeiladu sector addysg bellach cryfach. Mae John wedi bod yn eiriolwr angerddol dros golegau, gan gynnwys yn ei rôl bresennol yn cadeirio Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar gyfer Addysg Bellach a Sgiliau, a chyn hynny fel Dirprwy Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru. Mae wedi bod yn eiriolwr dros golegau a’u rôl hanfodol yn cefnogi cymunedau, ysgogi twf economaidd, a llunio dyfodol Cymru. 

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk, 

“Ers dau ddegawd a hanner mae John wedi defnyddio ei lais i eiriol dros addysg bellach ac yn arbennig ar gyfer oedolion sy’n dysgu. Nid oedd ei ymrwymiad byth yn gosmetig ond roedd bob amser wedi’i wreiddio yn ei brofiad ei hun fel oedolyn yn dysgu ac ar yr effaith drawsnewidiol a gafodd addysg bellach ar ei fywyd ei hun. 

Rydym yn hynod ddiolchgar i John am ei gefnogaeth a’i ymroddiad i’r sector addysg bellach. Pan fydd yn ymddiswyddo yn 2026, bydd y sector a’r Senedd yn colli hyrwyddwr dilys a phwerus dros y colegau, sgiliau ac addysg oedolion. Dymunwn y gorau i John ar gyfer y dyfodol ond edrychwn ymlaen at barhau i weithio gydag ef dros y 12 mis nesaf.” 

Gwybodaeth Bellach 

Senedd Cymru 
John Griffiths AS 
 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.