Ymateb Ymgynghoriad
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Dyddiad cyflwyno: 21 Ebrill 2023
Fe wnaeth ColegauCymru ymateb i ymgynghoriad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar gyllid datblygu rhanbarthol ar ôl yr UE.
Gwnaethon uwcholeuo'r graddau amrywiol o ymgysylltu gan awdurdodau lleol drwy gydol y broses. Lle bu rhai enghreifftiau da o arfer gorau yng Ngogledd a Gorllewin Cymru, mae rhanbarthau eraill wedi ei chael yn anodd nodi pwyntiau cyswllt addas i siarad â nhw o fewn yr awdurdod lleol.
Nodwyd ein hymgysylltiad cadarnhaol â chynrychiolwyr Adran Lefelu i Fyny Swyddfa Cymru Llywodraeth y DU, gan ei bod yn gweithredu fel fforwm i golegau rannu eu profiadau, lleisio pryderon, a darparu adborth mewn amser real wrth i’r rhaglen ddatblygu.
Mae oedi sylweddol wedi byrhau'r ffenestr gyflawni ac felly wedi effeithio ar fuddion posibl prosiectau. Mae dyraniadau SPF ar lefel leol unwaith eto wedi’u gohirio’n sylweddol gyda rhai prosiectau’n cael eu rhoi ar waith ar ddiwedd Blwyddyn 1 ac eraill yn cael eu caffael/mobileiddio ymhell i Flwyddyn 2, gan leihau darpariaeth bosibl o dair blynedd i gyn lleied â 18 mis (gan gynnwys unrhyw gyfnod cau a gweithgaredd gwerthuso).
Mae'n hollbwysig bod arian SPF yn cyrraedd yr ardaloedd a'r dysgwyr sydd â'r angen mwyaf o gymorth. Mae sicrhau bod cymorth yn cael ei ddarparu i ddysgwyr yn golygu’r canlyniadau gorau i’r economi a Chymru gyfan.
Gwybodaeth Bellach
Cysylltwch â Swyddog Polisi ColegauCymru, Amy Evans, gydag unrhyw gwestiynau.
Amy.Evans@ColegauCymru.ac.uk