Mae ColegauCymru yn falch i gynnal digwyddiad Partneriaeth Ôl-16 a fydd yn hyrwyddo llwyddiant i bobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) wrth iddynt symud drwy'r system addysg yng Nghymru.
Bydd y digwyddiadau yn edrych ar ddatblygu partneriaethau llwyddiannus gyda sefydliadau allweddol i sicrhau trosglwyddiad effeithiol dysgwyr ADY, gan ganolbwyntio ar ddarpariaeth ôl-16. Daw'r digwyddiadau wrth i awdurdodau lleol, colegau a rhanddeiliaid eraill baratoi i gyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysgol (Cymru) 2018. Mae'r fframwaith cyfreithiol newydd hwn wedi'i gynllunio i gefnogi plant a phobl ifanc ag ADY o 0 i 25 oed.
Mae gan y digwyddiadau, a fydd yn cael eu cynnal dros ddau hanner diwrnod, ar y 19eg a'r 25ain o Dachwedd, 180 o gynrychiolwyr cofrestredig, a byddant yn edrych ar sut y gall gwahanol sefydliadau ddod at ei gilydd i weithio'n graff er mwyn cyflawni'r canlyniadau dysgu gorau posibl i ddysgwyr ifanc a'u teuluoedd.
Dywedodd Arweinydd Trawsnewid ADY ColegauCymru, Chris Denham,
“Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi derbyn ymateb mor gadarnhaol i’r digwyddiadau ar-lein hyn, sy’n amserol wrth i ni geisio paratoi i weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg”.
Ychwanegodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru,
"Bydd y digwyddiadau hyn yn canolbwyntio ar gynnig atebion ymarferol a byddant yn cynnwys mewnbwn gan awdurdodau lleol, byrddau iechyd, addysg bellach a rhanddeiliaid eraill, gan sicrhau bod dysgwyr wrth wraidd yr holl benderfyniadau”.
Bydd digwyddiadau pellach yn cael eu trefnu yn y flwyddyn newydd wrth i sefydliadau geisio gweithredu'r ddeddfwriaeth newydd a fydd yn disodli'r fframwaith Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) cyfredol.
Gwybodaeth Bellach
Cysylltwch ein Harweinydd Trawsnewid Anghenion Addysg Ychwanegol ColegauCymru, Chris Denham, gydag unrhyw gwestiynau: Chris.Denham@colegaucymru.uk