Awst 2021 – Gorffennaf 2022
Eleni, mae’r sector addysg bellach wedi dod at ei gilydd i addasu, cydweithio, ac arloesi o ganlyniad i’r heriau a ddaeth yn sgil pandemig Covid-19 wrth gynnal cymaint â phosibl o’r cynnig arferol i ddysgwyr, staff, cymunedau a busnesau. Heddiw rydyn ni’n edrych rywfaint ar y gwaith gwych y mae ColegauCymru wedi’i gyflawni a’i gefnogi eleni ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol.
Mae ColegauCymru wedi helpu’r sector addysg bellach yng Nghymru i baratoi ar gyfer gweithredu ADY mewn amrywiaeth o ffyrdd, yn ogystal â darparu cymorth ar gyfer hyfforddi cannoedd o staff addysg bellach mewn ystod eang o sgiliau. Mae hyn yn cynnwys ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, canlyniadau ysgrifennu, paratoi Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) a deall agweddau cyfreithiol ar y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Cod.
Yn gynharach yn y flwyddyn, croesawodd ColegauCymru ddatganiad y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles AS, mewn perthynas â’r cynlluniau ar gyfer gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg 2018 (y Ddeddf ADY) ar gyfer pobl ifanc ôl-16. Bydd y dull ‘llif-drwodd’ yn sicrhau bod gan bob dysgwr sy’n cael ei symud i’r system ADY gan ysgol neu awdurdod lleol yn ystod y cyfnod gweithredu CDU ar waith.
Rydym hefyd yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi parhau i ariannu’r Arweinydd Anghenion Dysgu Ychwanegol Addysg Bellach, Chris Denham, sy’n cefnogi SABau yng Nghymru i barhau i baratoi ar gyfer y system newydd, tan fis Mawrth 2023.
Gwybodaeth Bellach
Chris Denham, Arweinydd Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol Addysg Bellach
Chris.Denham@ColegauCymru.ac.uk