Mae Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC) yn ddeunydd a ddefnyddiwyd wrth adeiladu llawer o adeiladau rhwng y 1960au a'r 1990au. Mae ei bresenoldeb wedi’i gadarnhau mewn amrywiaeth o eiddo sector cyhoeddus ledled y DU. Mae diogelwch dysgwyr, staff ac aelodau'r cyhoedd o'r pwys mwyaf i timau arweinyddiaeth pob coleg. Mae timau ystadau mewn colegau ledled Cymru yn blaenoriaethu gwaith adolygu i nodi unrhyw faterion posibl yn ymwneud â deunyddiau adeiladu RAAC mewn adeiladau coleg, gan gynnwys ymgysylltu ag arbenigwyr allanol i gasglu gwybodaeth fanwl. Dros y degawd diwethaf, mae’r sector addysg bellach wedi elwa ar fuddsoddiad cyfalaf sylweddol, gyda champysau newydd ledled Cymru. Bydd colegau’n parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar RAAC, ac mae ColegauCymru yn cyfarfod yn rheolaidd â thimau ystadau i gael diweddariadau. Mae diogelwch ein dysgwyr a’n staff yn hollbwysig, a bydd y sector yn ymateb yn unol â hynny ac mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru pe bai unrhyw fater yn codi.
Gwybodaeth Bellach
Datganiad Ysgrifenedig: Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC) mewn sefydliadau addysg yng Nghymru