Llwybrau at addysg a hyfforddiant ôl-16

Wales 16 year olds vote (1).jpg

Ymateb Ymghyhoriad

Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd
Dyddiad Cau ar gyfer cyflwyno: 27 Ionawr 2025

Mae’r Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i lwybrau addysg a hyfforddiant ôl-16. Mae hyn yn cynnwys ansawdd y wybodaeth a roddir i ddysgwyr am yr ystod lawn o opsiynau ôl-16 (llwybrau galwedigaethol ac academaidd ôl-16, h.y. addysg bellach, chweched dosbarth, prentisiaethau a hyfforddiant, ac ymlaen i addysg uwch).

Ein cwestiynau allweddol yn yr ymateb hwn yw:

  1. Rhaid i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol. Hoffem i Lywodraeth Cymru ddatblygu Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol. Mae diffyg bwriad a phwrpas strategol cyffredinol mewn polisi ôl-16 a strategaeth newydd, sy’n cyd-fynd â dealltwriaeth glir o ofynion yr economi. Byddai hynyn sicrhau darpariaeth addysg alwedigaethol a thechnegol a all gefnogi twf a chynnig cyfleoedd cyfartal i unigolion.
     
  2. Rhaid gwella'r cydweithio rhwng ysgolion a cholegau er budd dysgwyr. Rhan o'r ateb i sicrhau bod dysgwyr yn gwneud y dewisiadau cywir ar gyfer eu dyfodol yw sicrhau eu bod yn deall eu hopsiynau ar unrhyw gam cynnar yn eu taith addysg.
     
  3. Mae trefniadau ariannu tymor hwy yn hanfodol ar gyfer darparu gwell cymorth iechyd meddwl a lles. Mae’r galw am addysg bellach, ac yn arbennig darpariaeth alwedigaethol, yn cynyddu. Mae dadansoddiad diweddar gan ColegauCymru yn dangos bod cofrestriad yn y grŵp oedran 16-18 ar gyfer 2024/25 wedi cynyddu 8.27% ers 2023/24. Mae'r ffigurau cofrestru wedi cynyddu'n arbennig ar gyfer y dysgwyr hynny sy'n dod i mewn ar lefelau is a dysgwyr sydd angen cymorth i aros mewn addysg. Gyda’r cynnydd mewn atgyfeiriadau iechyd meddwl, a gweithrediad ALNET, mae’n bwysicach nag erioed bod cyllid yn cael ei ddiogelu drwy fwy nag un mlynedd cyllid tymor ar gyfer y sector.
     
  4. Rhaid cael gwared ar rwystrau trafnidiaeth. Pryder parhaus ar draws y sector colegau yw cost cludiant. Yn ôl data Llywodraeth Cymru ei hun, nododd 41% o bobl ifanc 16 i 24 oed mai trafnidiaeth oedd y prif rwystr i gael cwrs newydd, hyfforddiant neu swydd. Mae colegau ledled Cymru wedi wynebu cynnydd o fwy na £3.2miliwn mewn costau teithio i ddysgwyr dros y flwyddyn ddiwethaf.

Gwybodaeth Bellach

Clare Williams, Swyddog Polisi
Clare.Williams@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.