Roedd ColegauCymru a'r sector addysg bellach yn drist o glywed am golled sydyn Gareth Pierce, cyn Brif Swyddog Gweithredol CBAC a Chadeirydd presennol Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Yn ystod gyrfa lwyddiannus a oedd yn cynnwys amser fel ystadegydd yn y sectorau iechyd a thai, dysgu mathemateg mewn ysgol gyfun yn Ne Cymru, darlithio mewn ysgol fusnes, a thiwtora i'r Brifysgol Agored, bydd Gareth yn cael ei gofio'n bennaf am ei gyfraniad sylweddol i'r sector addysg yng Nghymru.
Dywedodd Cadeirydd ColegauCymru a Phrif Weithredwr a Phennaeth Coleg Gwent Guy Lacey,
“Danfonwn ein cydymdeimladau at teulu a ffrindiau Gareth yn ystod y cyfnod anodd hwn. Rydym yn cydnabod y rôl fawr a chwaraeodd Gareth mewn addysg yng Nghymru yn ystod cyfnod o newid sylweddol, ac rydym yn ddiolchgar am hyn.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr a Phennaeth Grŵp Llandrillo Menai Dafydd Evans,
“Ymhlith ei gyflawniadau niferus eraill, rhaid cydnabod cyfraniad Gareth i addysg a’r Gymraeg. Tra bod ei farwolaeth yn golled i’r gymdeithas Gymraeg, bydd ei waith ar bwysleisio pwysigrwydd yr iaith Gymraeg ar draws y sector addysg yn rhan fawr o’i etifeddiaeth dros y blynyddoedd a’r degawdau sydd i ddod. ”