Mae ColegauCymru a’r sector addysg bellach yn drist o glywed am farwolaeth ddiweddar cyn Bennaeth Coleg Catholig Dewi Sant, Mark Leighfield. Gwasanaethodd Mark fel Pennaeth y coleg am 24 mlynedd nes iddo ymddeol yn 2024. Roedd ei effaith ar draws addysg bellach yng Nghymru yn ddwys a pharhaol.
Roedd Mark yn uchel ei barch yng Ngholeg Catholig Dewi Sant ac ar draws y sector. Roedd ei ymroddiad i addysg a’i ymrwymiad i ddysgwyr yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae’r golled hon yn un syfrdanol i’r tîm cyfan yn y coleg, ac mae ein meddyliau gyda nhw yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Ymunodd Mark â Choleg Catholig Dewi Sant fel athro Economeg ac Astudiaethau Busnes ym 1987, ar ôl ennill BA (Anrh) dosbarth cyntaf mewn Economeg a TAR o Brifysgol Caerdydd, ac MSc mewn Economeg a Hanes Cymdeithasol o Ysgol Economeg Llundain. Aeth ymlaen i ddal swyddi Pennaeth Economeg, Pennaeth y Gyfadran TG ac Astudiaethau Busnes, Cyfarwyddwr Cwricwlwm a Dirprwy Bennaeth, cyn symud ymlaen i swydd Pennaeth yn 2004.
Bu Mark hefyd yn dal sawl rôl anweithredol ac roedd yn aelod o Bwyllgor Gwaith 14-19 Cymru a Lloegr yn y Gwasanaeth Addysg Gatholig ac roedd yn aelod o Fwrdd ColegauCymru.
Am gyfnod, cafodd Mark ei secondio i Lywodraeth Cymru i arwain y gwaith o ddatblygu a chyflawni’r Polisi Llwybrau Dysgu 14-19, gan ddatblygu canllawiau a rheoliadau statudol. Gweithiodd Mark ar draws ystod o sectorau addysg, ac roedd yn aelod Lleyg o Gyngor Llywodraethu Prifysgol Caerdydd, yn Llywodraethwr Ysgol Uwchradd, ac yn aelod o Gydbwyllgor Llywodraethu ar gyfer gwaith cydweithredol gyda Choleg y Cymoedd.
Dywedodd Cadeirydd ColegauCymru, Lisa Thomas,
“Rydym yn cydymdeimlo’n ddwys â theulu, ffrindiau a chydweithwyr Mark. Bydd Mark yn cael ei gofio am ei garedigrwydd, ei ymrwymiad i addysg, a’r effaith gadarnhaol a gafodd ar gynifer o fywydau.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk,
“Roedd cyfraniad Mark i addysg yn ymestyn ymhell y tu hwnt i furiau Coleg Dewi Sant. Chwaraeodd ran ganolog yn arwain llwybrau 14-19, gan lunio dyfodol dysgwyr di-rif. Gadawodd ei garedigrwydd a’i ymroddiad farc annileadwy ar bawb a gafodd y fraint o weithio gydag ef.”