Ar ddechrau mis Rhagfyr, cynhaliodd Rhwydwaith Addysgu a Dysgu ColegauCymru yr ail mewn cyfres o ddigwyddiadau Dysgwrdd, a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer cydweithwyr yn y sectorau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith, i rannu enghreifftiauo arfer da.
Mae'r digwyddiadau, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, hefyd yn cefnogi cyfnewid gwybodaeth ar draws y sector addysg bellach yng Nghymru. Roedd y digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar arfer da a rhannu awgrymiadau addysgu a dysgu yn benodol ar gyfer dysgwyr Safon Uwch.
Cafwyd mewnbwn gwerthfawr gan gydweithwyr o Goleg Sir Gar, Coleg Ceredigion, Grŵp Colegau NPTC a Grŵp Llandrillo Menai. Roeddwn unwaith eto’n ddiolchgar am gyfraniadau'r siaradwyr a'r mewnbwn gan gynrychiolwyr.
- Developing self-reflective independent learners - Vinnie Ponalagappan
- Critical thinking at A level - Angharad Mansfield
- Using a visualiser - modelling and feedback - Gemma Campbell
- Using Playlist as a transition tool from GCSE to A level - Selina Philpin and Allison Constantine
- How can we ensure our students are using assessment criteria to improve their own work? - Sophie Williams
- Word Wall: An interactive and inclusive tool to engage students in their studies and their independent learning - Emma Goode
- 20 Hour revision plan - Michael Hackfort
- Use of multisensory feedback to enable and promote individual progress - Rhodri ap Llwyd
- Class Point - A new twist on the use of PowerPoint - Nicola Hunter
A wnaethoch chi golli'r digwyddiad?
Os gwnaethoch chi golli'r digwyddiad byw, gallwch wylio eto!
Digwyddiad Nesaf
Bydd y digwyddiad nesaf yn cael ei gynnal ar-lein ym mis Chwefror 2022, gyda manylion pellach i ddilyn. Cysylltwch â Macsen.Jones@colegaucymru.ac.uk i gael eich ychwanegu at y rhestr ebost.