Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd ymweld â Choleg Caerdydd a’r Fro i weld lles actif ar waith

HJ-CAVE3-A_HJ4587 - Copy2.jpg

Ynghyd â Choleg Caerdydd a’r Fro, roedd ColegauCymru yn falch iawn o groesawu aelodau o Bwyllgor Iechyd a Chymdeithasol y Senedd ynghyd â rhanddeiliaid eraill ’w  Campws Canol y Ddinas  heddiw. Cafodd y pwyllgor gyfle i  i gael gwell dealltwriaeth o’r rôl y mae lles actif yn ei chwarae mewn addysg bellach a manteision hirdymor cefnogi iechyd a lles dysgwyr addysg bellach yng Nghymru. 

Trefnwyd yr ymweliad yng nghyd-destun Ymchwiliad y Pwyllgor sy’n edrych ar Atal Iechyd Gwael - Gordewdra.

Meddai Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Lles Actif a Chwaraeon ColegauCymru, 

“Roedd heddiw yn gyfle gwych i aelodau’r Pwyllgor weld Lles Actif ar waith. Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi yn arweinwyr sector wrth ddatblygu ei ddarpariaeth Lles Actif, yn enwedig ers datblygu cyfleusterau newydd ar y campws yng Nghanol y Ddinas. Mae’r coleg wedi mabwysiadu ymagwedd ragweithiol at ymgorffori gweithgarwch yn amserlen ddyddiol y dysgwyr gan ganiatáu iddynt wneud y gorau o’r cyfleusterau sydd ar gael.” 

Ar lefel genedlaethol, mae Prosiect Lles Actif ColegauCymru yn gweithio gydag 11 o golegau addysg bellach ac yn ymgysylltu â dros 5,000 o ddysgwyr addysg bellach y flwyddyn. Yn nodweddiadol, mae’r prosiect yn gweithio gyda’r dysgwyr hynny nad ydynt eisoes yn cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol neu chwaraeon, gan ganolbwyntio ar ddysgwyr benywaidd a grwpiau eraill â nodweddion gwarchodedig (cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, anabledd dysgu, cefndir cymdeithasol) a allai arwain at rwystrau i gyfranogiad. 

Ychwanegodd Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Sharon James-Evans, 

“Roedd yn wych croesawu Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd i’n Campws yng Nghanol y Ddinas a chael y cyfle i arddangos ein rhaglen Lles Actif ar waith. 

Yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, rydym yn credu’n gryf ym manteision ymarfer corff a gweithgaredd a’r hyn y gall ei wneud i les corfforol a meddyliol person ifanc. Mae ein rhaglen Lles Actif yn ymgysylltu â miloedd o ddysgwyr o'r rhai sy'n anoddach eu cyrraedd yr holl ffordd drwodd i'r rhai sy'n cystadlu ar lefel genedlaethol trwy ein Hacademïau Chwaraeon. 

Yn ogystal â chanolbwyntio ar greu pobl fedrus a chyflogadwy, rydym yn frwd dros sicrhau bod ein pobl ifanc yn creu arferion iach y gallant eu datblygu yn eu dyfodol. Mae ein rhaglen Lles Egnïol yn ymgysylltu â dysgwyr na fyddent efallai’n gwneud ymarfer corff fel arall ac yn rhoi cyfleusterau a chyfleoedd iddynt integreiddio gweithgarwch i'w bywydau.” 

Rhoddodd yr ymweliad, a oedd yn cynnwys taith o amgylch cyfleusterau lles actif a chwaraeon y coleg, gyfle i aelodau gwrdd â staff a dysgwyr sy’n ymwneud â’r prosiect, i weld gweithgaredd ar waith a manteision buddsoddi mewn cyfleusterau dysgu, lles ac ymgysylltu â’r gymuned leol. 

Roedd cyfle i ymweld â chyfleuster ‘cromen chwaraeon’ dan do’r Coleg ac i sgwrsio â dysgwyr am eu profiadau wrth wylio rhai o’r gweithgareddau sydd ar gael. Siaradodd yr aelodau â dysgwyr prentisiaeth iau, dysgwyr adeiladu a pheirianneg a myfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau Sgiliau Byw'n Annibynnol. 

Mae ColegauCymru yn ddiolchgar i Goleg Caerdydd a’r Fro am gynnal yr ymweliad hwn ac i’r Pwyllgor am gynnwys yr ymweliad hwn fel rhan o’u hymchwiliad ehangach. Bydd ColegauCymru yn ailddatblygu ei Strategaeth Lles Actif yn 2025 ac rydym yn croesawu’r cyfle i ddefnyddio mewnwelediad pellach yn y maes hwn i helpu i lywio cyfeiriad strategol y sector yn well.  

Gwybodaeth Bellach

Strategaeth Lles Actif ColegauCymru 
2020 - 2025  

Ymchwiliad y Senedd 
Atal Iechyd Gwael - Gordewdra 
2024 
 
Adroddiad Thematig Estyn 
Adolygiad o’r rhagelen prentisiaethau yng Nghymru 
13 Mai 2024 

Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Lles Actif a Chwaraeon ColegauCymru 
Rob.Baynham@ColegauCymru.ac.uk  

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.