Cyfres o ddigwyddiadau yn edrych ar y camau nesaf ar gyfer Lles Actif yn y sector Addysg Bellach

Climbing 4.jpg

Yr hydref hwn bydd ColegauCymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau yn edrych ar y camau nesaf ar gyfer Lles Actif yn y sector Addysg Bellach. 

Mae’n bleser gan ColegauCymru wahodd cynrychiolwyr o’r sector addysg bellach a rhanddeiliaid allanol i ymuno â ni i edrych ar sut y gallwn gynyddu gweithgaredd a lles pobl ifanc yng Nghymru. 

Gyda chefnogaeth ymchwil ddiweddar a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwell iechyd meddwl mewn addysg bellach, bydd y fforymau’n cynnwys dysgwyr a staff o golegau ochr yn ochr â rhanddeiliaid o’r sectorau lles a chwaraeon. Bydd y cynadleddwyr yn dysgu mwy am les actif ac yn cael cyfle i gyfrannu at ddatblygiad y dyfodol. 

Digwyddiad Gogledd Cymru 
Dyddiad: 
18 Hydref 2022
Amser: Cofrestru o 9.30yb
Lleoliad: Campws Glannau Dyfrdwy, Coleg Cambria
Cofrestrwch Eich Lle

Digwyddiad Gorllewin Cymru 
Dyddiad: 
20 Hydref 2022
Amser: Cofrestru o 9.30yb
Lleoliad: Campws y Graig, Llanelli, Coleg Sir Gar / Coleg Ceredigion 
Cofrestrwch Eich Lle

Digwyddiad De Cymru 
Dyddiad: 25 Hydref 2022
Amser: Cofrestru o 9.30yb
Lleoliad: Academi STEAM, Coleg Penybont
Cofrestrwch Eich Lle


Beth allwch chi ei ddisgwyl gan Fforymau Lles Actif ColegauCymru? 

Bydd y Fforymau yn eich annog i gymryd rhan weithredol wrth arwain datblygiad cyflwyno gweithgareddau yn y dyfodol, cefnogi gwaith partneriaeth newydd a gwerthuso ffyrdd newydd o fonitro gweithgaredd. 

Bydd pob diwrnod yn cynnwys mewnwelediad o ymchwil diweddar ColegauCymru, mewnbwn gan bartneriaid a rhanddeiliaid allweddol a gweithdai datblygu ar themâu allweddol gan gynnwys: 

  • Cysylltu Gweithgaredd a Lles Sut gallwn ni wella ein dealltwriaeth o fanteision cyfranogiad ar gyflogadwyedd a lles yn y dyfodol? 
  • Newid Diwylliannol Pa newidiadau ymddygiad sydd eu hangen i wreiddio gweithgaredd a chyrraedd cynulleidfa ehangach yn y sector addysg bellach? 
  • Cydweithio Ble gall sefydliadau gysylltu â'r sector addysg bellach i ehangu'r cynnig i bobl ifanc a chyflawni amcanion a rennir? 

Hygyrchedd a Gwybodaeth Ychwanegol 

Mae'r digwyddiadau hyn yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a'r rhai â symudedd cyfyngedig. Gallwch roi gwybod i ni ar y ffurflen cofrestru os oes angen lle parcio anabl arnoch. Gallwch hefyd roi gwybod i ni beth yw eich dewis iaith ac unrhyw ofynion arbennig ychwanegol neu ofynion dietegol/alergeddau sydd gennych. 

Gobeithiwn yn fawr y byddwch yn gallu ymuno â ni yn un ac edrychwn ymlaen at eich croesawu. Yn y cyfamser, cysylltwch â Charley Green gydag unrhyw gwestiynau. 

Charley Green Cynorthwy-ydd Gweinyddol 
Charley.Green@ColegauCymru.ac.uk 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.