Mae Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru, Rachel Cable, yn croesawu penodiad Prif Weithredwr newydd CTER ac yn credu bod y Comisiwn yn cynnig cyfle gwirioneddol i ailgynllunio llwybrau dysgu ar gyfer addysg bellach.
Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i arloesi gydag un awdurdod rheoleiddio, goruchwylio a chydlynu cyffredinol ar gyfer yr holl ddarpariaeth addysg drydyddol. Ym mis Ebrill 2024, daw’r Comisiwn yn weithredol, ac mae hon yn garreg filltir arwyddocaol.
Mae sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER) yn ddarn nodedig o ddeddfwriaeth sy’n cyflwyno rhai o’r diwygiadau mwyaf arwyddocaol i bensaernïaeth ein system addysg ers datganoli.
Mae’n hanfodol bod llais addysg bellach yn cael ei glywed yn glir o fewn y Comisiwn. Ni allwn fentro dychwelyd i ddyddiau addysg bellach yn cael ei gweld fel gwasanaeth Sinderela o fewn addysg ôl-16, a bydd hynny’n gofyn am arweinyddiaeth y Comisiwn i ddeall anghenion penodol dysgwyr o fewn y sector a’r gwahanol ffyrdd y mae colegau yn gwasanaethu eu cymunedau lleol.
“Rhaid i’r Comisiwn fynd i’r afael yn briodol â’r mater o gystadleuaeth wastraffus i ddysgwyr (rhwng chweched dosbarth ysgolion ac addysg bellach, a rhwng addysg bellach ac uwch o ran c yrsiau mynediad er enghraifft), sy’n aml yn dal i arwain at aneffeithlonrwydd, nid darparu’r cyfleoedd gorau i ddysgwyr a pheidio â chael y gwerth gorau am arian cyhoeddus.”
Rydym wrth ein bodd bod Simon Pirotte OBE o Goleg Penybont wedi’i benodi’n Brif Weithredwr CTER, a gyda’i fwy na thri degawd o brofiad ym myd addysg, ef yw’r person cywir i arwain sefydlu’r sefydliad newydd hwn yn ei flynyddoedd cynnar.
Rydym wrth ein bodd bod Simon Pirotte OBE o Goleg Penybont wedi’i benodi’n Brif Weithredwr CTER, a gyda’i fwy na thri degawd o brofiad ym myd addysg, ef yw’r person cywir i arwain sefydlu’r sefydliad newydd hwn yn ei flynyddoedd cynnar.
Cyfrifoldeb CTER fydd gwireddu’r weledigaeth a osodwyd gan yr Athro Ellen Hazelkorn yn 2016 o system addysg ôl-orfodol integredig a chydlynol gyda llwybrau a chyfleoedd i bob dysgwr. Rhaid i’r Comisiwn fynd i’r afael â’r mater o gystadleuaeth wastraffus i ddysgwyr (rhwng chweched dosbarth ysgolion ac addysg bellach, a rhwng addysg bellach ac uwch o ran cyrsiau mynediad er enghraifft), sy’n aml yn dal i arwain at aneffeithlonrwydd, heb ddarparu’r cyfleoedd gorau i ddysgwyr a pheidio â chael y gwerth gorau am arian cyhoeddus. Mae ethos yr amcanion y tu ôl i Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) yn gosod y sylfeini ar gyfer parch cydradd.
Pa newidiadau sydd eu hangen?
Wrth i Lywodraeth Cymru nodi ei blaenoriaethau ar gyfer y Comisiwn yn ei flynyddoedd cynnar, mae’n hollbwysig inni achub ar y cyfle i wneud y newidiadau mawr sydd eu hangen. Rhaid i ddysgwyr fod wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau mewn gwirionedd – mae hyn yn golygu math gwahanol o ddeialog, cynllunio ar y cyd, a gwneud yn siŵr bod sefydliadau’n rhoi’r dysgwr yn gyntaf yn eu hystyriaethau.
Mae’r Comisiwn yn cynnig cyfle gwirioneddol inni ailgynllunio llwybrau dysgu, fel bod gennym gwricwlwm cydlynol sy’n galluogi dilyniant cadarnhaol i ddysgwyr – pa bynnag lwybr y maent yn dewis ei ddilyn drwy ein system. Rhaid i’r gwaith o gefnogi’r llwybrau hyn gael ei ategu gan hawl sylfaenol i wybodaeth, cyngor ac arweiniad o ansawdd uchel ac annibynnol, yn enwedig ar y pwyntiau pontio allweddol. Rhaid inni hefyd fod yn uchelgeisiol wrth flaenoriaethu gwelliant parhaus mewn rhagoriaeth dysgu ac addysgu, a gwneud yn siŵr bod eiin trefn ansawdd yn ceisio cydnabod effaith y sector ar gymdeithas. Yn ganolog i hyn rhaid hybu cyfleoedd pellach i bobl hyfforddi ac astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog.
Mae gennym gyfle newydd i gydnabod cyfraniad unigryw colegau addysg bellach at drosglwyddo gwybodaeth, a chefnogi cyflogwyr mawr a bach, mewn datblygiad economaidd a chymdeithasol rhanbarthol a chenedlaethol. Mae colegau’n hollbwysig o ran datblygu sgiliau, gwella iechyd a lles, a sbarduno ymgysylltiad cymdeithasol – ar gyfer dysgwyr o bob oed.
Cydweithio yw’r ffordd ymlaen
Rhaid i’r sector ôl-16, CTER, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill gydweithio, a dylai methodoleg ariannu helpu i alluogi a llywio diwylliant o gydweithio.
“Mae’n bryd bod yn feiddgar. Er mwyn i Gymru ffynnu ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol, mae arnom angen sector addysg ôl-orfodol sy’n gweithio’n dda ac er gwell.”
Rhaid i sefydlu’r Comisiwn fod yn adeg pan fyddwn yn cydnabod bod llwybrau galwedigaethol a thechnegol yn nodedig, ac yr un mor werthfawr ag eraill. Dyma ein cyfle i ysbrydoli dysgwyr am bosibiliadau helaeth addysg alwedigaethol a thechnegol. Byddai gwneud dim llai yn mynd yn brin o wir gydraddoldeb parch.
Mae'n bryd bod yn feiddgar. Er mwyn i Gymru ffynnu ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol, mae arnom angen sector addysg ôl-orfodol sy’n gweithio’n dda ac sydd yn fentrus. Edrychwn ymlaen at weithio fel partneriaid cyfartal yn y Comisiwn i sicrhau bod rôl unigryw addysg bellach yn cael ei chydnabod, a bod CTER yn ein helpu i wireddu ein gweledigaeth i bob dysgwr allu cael mynediad i addysg bellach o safon fyd-eang.
Mae addysg bellach yn hanfodol i sicrhau Cymru gryfach, wyrddach a thecach i bawb, ac mae colegau’n barod i chwarae eu rhan.
Gwybodaeth Bellach
Rachel Cable, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus
Rachel.Cable@ColegauCymru.ac.uk