Dathlodd ColegauCymru 10 mlynedd ers agor eu swyddfa yn Nhongwynlais gan Ddirprwy Weinidog Sgiliau ar y pryd, John Griffiths AC. I gydnabod yr achlysur, gwahoddwyd John Griffiths nôl ar gyfer digwyddiad seminar fer i edrych ar sgiliau yng Nghymru - y gorffennol, y presennol a'r dyfodol. Rhannodd atgofion fel y Dirprwy Weinidog Sgiliau, wrth nodi pwysigrwydd peidio colli golwg o’r ffaith bod addysg yn ei hun yn rhywbeth da. Dywedodd hefyd fod y portffolio sgiliau yn un y mae Gweinidogion yn ei fwynhau, sy'n tueddu i gynnal diddordeb yn y sector os ydynt yn newid portffolio.
Trafododd y siaradwraig nesaf, Kathryn Robson, Prif Weithredwr, Addysg Oedolion Cymru, y ddarpariaeth AB a sgiliau cyfredol, i ddathlu’r gwaith da gan golegau ar draws Cymru. Dywedodd,
“Mae'r sector AB yn dangos ei hun dro ar ôl tro i fod yn hyblyg ac yn ymatebol i newidiadau. Mae colegau yn gydweithredwyr cryf sy'n parhau i ddarparu cyfleoedd dysgu, sgiliau a chyflogadwyedd i gefnogi twf economaidd.”
I gwblhau, edrychodd Rob Simkins, Llywydd UCM Cymru, at ddyfodol AB. Ar ôl trafod â dysgwyr ledled Gymru, eglurodd eu blaenoriaethau sef cael Addysg Bellach wedi ariannu yn llawn, yn hygyrch ac yn gynhwysol, darparu sgiliau gydol oes er mwyn i'r dysgwyr addasu i amgylchiadau newidiol, ac i golegau fod yn foesegol a chynaliadwy.
Ychwanegodd Rob,
“Ar ôl siarad â myfyrwyr, cynrychiolwyr myfyrwyr, a swyddogion ar draws colegau yng Nghymru, yr hyn a ddaeth allan oedd yr hoffai dysgwyr ddysgu wedi'u personoli i weddu i'r amgylchiadau, a hefyd cael mynediad at y systemau cywir i gefnogi eu dysgu. Ar ben hynny, roedd y syniad o ddysgu bod yn foesol a chanolbwyntio ar ymddygiadau a gwerthoedd myfyrwyr yn bwysig.”
Gorffennodd y digwyddiad wrth edrych ymlaen at y 10 mlynedd nesaf. Dywedodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru,
“Mae'r sector AB yn gweithio'n galed i wella a chyfoethogi bywydau dysgwyr. Yn ystod y 10 mlynedd nesaf, bydd llawer o heriau a chyfleoedd yn y sector, wrth gyflwyno'r Cwricwlwm newydd i Gymru, a sefydlu'r corff newydd yn goruchwylio addysg ôl-16. Bydd colegau yn parhau i addasu i'r tirweddau cyfnewidiol hyn, wrth ddarparu canlyniadau addysg, hyfforddiant a sgiliau o'r radd flaenaf i bob dysgwr ôl-orfodol yng Nghymru.”